O fis Ebrill 2018, bydd angen i Gymru gael system ar gyfer casglu a rheoli trethi newydd a gyflwynir yng Nghymru. Ar hyn o bryd, bydd Trethi Trafodiadau Tir a Threth Tirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru, ond mae'r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod unrhyw system casglu trethi'n briodol ar gyfer unrhyw ddatganoli yn y dyfodol.
Cyn y cyfrifoldebau newydd hyn, bydd y Pwyllgor yn edrych ar:
- Y sefydliadau mwyaf effeithlon i gasglu trethi datganoledig yn y tymor byr a'r hirdymor; a'r
- Cydbwysedd rhwng yr angen am sefydlogrwydd a chyfleoedd i ddatblygu trethi sydd wedi'u teilwra ar gyfer Cymru yn y dyfodol.
Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid :
"Bydd y Pwyllgor yn ceisio barn ar bwy ddylai fod yn gyfrifol am gasglu trethi Cymru.
"Rydym yn gwahodd pobl Cymru i gyfrannu at yr ymchwiliad hwn gan ein bod hefyd am glywed sut y mae pobl yn credu y gellir casglu'r trethi fel bod safonau gwasanaeth yn parhau ar lefel gyson."