Y Cynulliad Cenedlaethol yn agor ymchwiliad i gasglu trethi datganoledig

Cyhoeddwyd 23/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2015

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad newydd i gasglu trethi datganoledig yng Nghymru.
 

O fis Ebrill 2018, bydd angen i Gymru gael system ar gyfer casglu a rheoli trethi newydd a gyflwynir yng Nghymru.  Ar hyn o bryd, bydd Trethi Trafodiadau Tir a Threth Tirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru, ond mae'r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod unrhyw system casglu trethi'n briodol ar gyfer unrhyw ddatganoli yn y dyfodol.

Cyn y cyfrifoldebau newydd hyn, bydd y Pwyllgor yn edrych ar:

  • Y sefydliadau mwyaf effeithlon i gasglu trethi datganoledig yn y tymor byr a'r hirdymor; a'r
  • Cydbwysedd rhwng yr angen am sefydlogrwydd a chyfleoedd i ddatblygu trethi sydd wedi'u teilwra ar gyfer Cymru yn y dyfodol.

Dywedodd  Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid :

"Bydd y Pwyllgor yn ceisio barn ar bwy ddylai fod yn gyfrifol am gasglu trethi Cymru.

"Rydym yn gwahodd pobl Cymru i gyfrannu at yr ymchwiliad hwn gan ein bod hefyd am glywed sut y mae pobl yn credu y gellir casglu'r trethi fel bod safonau gwasanaeth yn parhau ar lefel gyson."