Y Cynulliad Cenedlaethol yn clywed bod cymorth i’r digartref yn “broblem i bawb ond yn gyfrifoldeb i neb”

Cyhoeddwyd 19/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2019

Heddiw, mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw am i ragor gael ei wneud i helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl a phroblemau oherwydd camddefnyddio sylweddau.

Mae Grŵp Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru wedi disgrifio’r sefyllfa yng Nghymru fel “argyfwng o ran problemau cysgu ar y stryd” oherwydd y cynnydd o 45% yn nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd rhwng 2015 a 2018.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth drallodus gan bobl sydd â phrofiad o gysgu ar y stryd a chan y rhai sy'n gweithio gyda phobl ddigartref, gan ei annog i alw am ateb brys i'r broblem gynyddol.

Gweithio mewn seilos

Roedd y Pwyllgor yn siomedig o glywed gan banel o bobl sy'n gweithio gyda phobl sy'n cysgu ar y stryd, bod rhwystr sylweddol i ddarparu gwasanaethau effeithiol oherwydd problemau diwylliannol o fewn sefydliadau a diffyg arweinyddiaeth. Dywedwyd dro ar ôl tro wrth y Pwyllgor am seilos ac agwedd “ni a nhw” rhwng gwahanol grwpiau proffesiynol.

Mae'r rhai sy'n gweithio gyda phobl ddigartref yn cydnabod bod yn rhaid i wasanaethau sy’n helpu unigolion gyda thai, problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r problemau sy'n eu hwynebu. Clywodd y Pwyllgor fod cynllun peilot Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru wedi dangos y gellir gwneud hyn. Dywedwyd wrth aelodau'r Pwyllgor fod union natur y model, sy’n dod ag ystod eang o wasanaethau ynghyd, wedi arwain at weithio mwy integredig. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn bendant nad “bwled arian” yw Tai yn Gyntaf a bod angen mynd i’r afael â phroblemau eraill

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan arweiniol o ran gweithio gyda sefydliadau ar draws gwahanol feysydd, fel gwasanaethau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a thai i newid y diwylliant i ddod â sefydliadau ynghyd i ddarparu gwasanaethau sydd wedi'u hintegreiddio'n iawn. Mae hefyd yn argymell bod y llywodraeth yn nodi arfer gorau i annog rhannu ar draws gwahanol sectorau.

Hyfforddiant

Y rhai sy'n camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth yn aml yw'r rhai anoddaf i'w cyrraedd a chlywodd y Pwyllgor fel y mae gwahanol resymau pam nad tai oedd yr unig bethau yr oedd eu hangen i atal cysgu ar y stryd.

Mewn tystiolaeth, dywedodd y Wallich: “The real thing that’s stopping people coming in is that the offer that we have in services is less than what the streets offer. So, if you’re in the throes of addiction, you’ve got all these complex mental health issues ...... you can turn that pain off with spice or heroin quite easily. We can’t offer people that. You can be nobody in a flat, or you can be somebody on the streets. There are cultural implications for people who’ve been out there for a long time. ”

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oes digon o staff â'r hyfforddiant a'r arbenigedd cywir i ymdrin â chymhlethdodau rhywun â phroblemau iechyd meddwl a dibyniaeth wrth ddarparu cymorth mwy cyffredinol i bobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae'n credu bod angen mynd i'r afael â hyn i sicrhau bod digon o arbenigwyr a hefyd staff cymorth mwy cyffredinol â'r lefelau priodol o hyfforddiant i gefnogi'r rhai sy'n ceisio dod oddi ar y strydoedd.  Fel rhan o hyn, dylai Llywodraeth Cymru ystyried effeithiolrwydd hyfforddiant seiciatreg arbenigol.

Mae Bob (nid ei enw iawn) yn denant ar raglen Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth Caerdydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Dywed iddo ei helpu i ddod oddi ar y strydoedd lle’r oedd wedi dod yn ddibynnol ar gyffuriau i ymdopi.

“Mae bod yn ddigartref yn erchyll ac rwyf wedi bod drwy amseroedd tywyll iawn. Ni allwch weld golau ym mhen draw’r twnnel. Pan oeddwn ar y strydoedd cefais fy ngham-drin a'm bychanu. Rydych yn teimlo bod pobl yn edrych i lawr arnoch ac roedd pobl yn poeri arnaf; yn torri poteli cwrw dros fy mhen; yn fy nghicio yn fy mhen; fy sarhau a gwneud hwyl am fy mhen - mae'n brofiad diraddiol a gwaradwyddus iawn ac roedd cymryd cyffuriau yn helpu i ddileu'r cyfan.

“Pan ymunais â rhaglen Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth a Chyngor Caerdydd, roeddwn wedi bod 'drwy'r system' am naw mlynedd - o fod yn ddigartref ar y stryd; yn y carchar; yn aros mewn hosteli i fyw mewn tŷ a rennir. Roedd fy mudd-daliadau mewn llanast ac roeddwn ar goll yn llwyr ac yn ddi-obaith.

 “Mae bywyd yn llawer gwell bellach ers imi gael cymorth proffesiynol gan fy ngweithiwr allweddol yn Tai yn Gyntaf. Rwyf wedi gallu mynd i’r afael â’m problemau dibyniaeth ac rwy’n gwella. Oherwydd y cynnydd hwn mae fy merch yn ôl yn fy mywyd. Nid oeddwn wedi cael cysylltiad â hi ers bron i 20 mlynedd, ond mae pethau'n wahanol iawn bellach. Tai yn Gyntaf yw’r unig raglen sydd wedi gweithio i'm cael allan o ddigartrefedd ac i roi'r gorau i gymryd cyffuriau a'r rheswm ei fod wedi gweithio yw oherwydd y staff a'r cymorth wedi'i deilwra y maent wedi'i roi imi. "

Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:

“Nid oes unrhyw gwestiwn ein bod yn wynebu argyfwng o ran cysgu ar y stryd ac ar hyn o bryd nid oes digon o arian yn y system i sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen i fynd i'r afael â'r broblem. Fodd bynnag, mae'n amlwg hefyd bod llawer o broblemau strwythurol ledled Cymru sy'n ein rhwystro rhag dileu cysgu ar y stryd. Ni ellir atal digartrefedd drwy dai yn unig, mae rôl i'r holl wasanaethau cyhoeddus o ran mynd i'r afael â'r broblem.

“Mae sefydliadau yn aml yn gweithio mewn seilos a phan fydd gennych rywun heb gartref, â phroblem iechyd meddwl, sy'n camddefnyddio sylweddau, mae angen cynnwys nifer o wahanol asiantaethau. Mae'n amlwg o'n hymchwiliad bod yn rhaid i'r sefydliadau hyn weithio'n well gyda'i gilydd ac mae angen i rywun arwain - dylai Llywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth a dod â phobl ynghyd.

“Mae’n amlwg i mi bod gwaith gwych yn digwydd, fel y prosiectau Tai yn Gyntaf a’r Community Care Collaborative yn Wrecsam. Mae’r bobl hyn yn arwain y ffordd - ond mae’n rhaid ailadrodd hyn ledled Cymru ar frys.

“Fe wnaethon siarad â phobl mewn amgylchiadau anodd iawn. Clywsom fod llawer o bobl sy’n cysgu ar y stryd yn wynebu rhwystrau ychwanegol o ganlyniad i gyflyrau fel awtistiaeth neu ADHD. Os ydynt hefyd yn ymdopi â phroblemau iechyd meddwl a dibyniaeth, mae ganddynt fynydd i'w ddringo i gael y cymorth cywir.

“Gwyddom y bydd llawer o bobl yn treulio’r Nadolig ar eu pennau eu hunain eleni oherwydd amryw o resymau. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol, heddiw rydym yn galw arni i ddangos arweinyddiaeth a gweithredu ar frys i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a'r rhesymau cymhleth drosto. ”