Y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal cynhadledd ar Safbwyntiau ar Gyfranogiad Pobl Ifanc
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi trefnu cynhadledd: Safbwyntiau ar Gyfranogiad Pobl Ifanc (DYDD IAU 27 TACHWEDD), sydd wedi ei anelu at ddatblygu cysylltiadau defnyddiol ac ymarferol ar draws nifer o sefydliadau yn y DU, sydd i gyd â diddordeb cyffredin mewn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Cynhelir y gynhadledd yn Siambr Hywel (siambr drafod ieuenctid Cynulliad Cenedlaethol Cymru) yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd.
Bydd nifer o siaradwyr allweddol yn cymryd rhan yn y gynhadledd, yn cynnwys Alun Owens (Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd), Sara Reid (Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru), Michael Raftery (Cyfarwyddwr Rhaglen Addysg Dinasyddiaeth Cymdeithas Hansard) a John Gower (awdur a darlledwr).
Bydd y gynhadledd yn cylchdroi o amgylch araith gan bob prif siaradwr, gyda thrafodaethau agored rhwng y cynrychiolwyr i ddilyn. Bydd panel o bobl ifanc, tebyg i Reithgor Dinasyddion yn cymryd rhan yn y trafodaethau a bydd cyfle i’r bobl ifanc fynegi’u barn am y gweithdrefnau. Gallant hefyd roi eu sylwadau ar ffurf electronig ar sgriniau yn Siambr Hywel.
Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, a fydd yn croesawu’r cynrychiolwyr i’r gynhadledd ddydd Iau: “Rwy’n falch bod y Cynulliad yn croesawu’r gynhadledd hon, sy’n cynrychioli mynegiant o nod strategol Cynulliad Cenedlaethol Cymru o hyrwyddo ac ehangu cyfranogiad mewn datganoli.
“Mae’n galonogol bod y gynhadledd wedi denu cynrychiolwyr o Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Rwy’n hyderus y bydd hwn yn gyfle gwych i rannu syniadau a llwyddiannau ac i drafod yr heriau sy’n ein hwynebu.”
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Os ydych am ddod i'r digwyddiad hwn, cysylltwch â Iwan Williams ar 02920 898039 neu drwy e-bost yn Iwan.Williams@wales.gsi.gov.uk
2. Mae'r Prif Siaradwyr yn cynnwys:
Alun Owens (Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd)
Sara Reid (Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru) –
Michael Raftery (Cymdeithas Hansard )
Jon Gower (Awdur a darlledwr)
3. Mae'r cynrycholyddion yn cynnwys
Bethan Jenkins AC
Mari Wyn Gooberman (Pennaeth y Gwasanaeth Addysg, Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Sian Davies (Mencap)
Enfys Williams (CFfI Cymru)
Martin Pollard (Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd-Cymru)
Lorraine Barrett AC
Tom O’Leary (Rheolwr Addysg, Senedd y DU)
Ion Thomas (Ysgol Gyfun Gwynllyw)
Peter Black AC
Karen Roberts (Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau/OFCOM)
Karl Straw (Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Tim Ruscoe (Swyddog Datblygu Cyfranogiad, Barnardos) -
Rosemary Everett (Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr ac Allgymorth, yr Alban)
Iwan Williams (Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Eleri Wyn Williams (Pennaeth Addysg, BBC)
Andy Klom (Comisiwn yr UE Cymru)
Eleri Thomas (Achub y Plant)
Rachel Price (Y Ddraig Ffynci)
Alan Turkie (Senedd Ieuenctid y DU)
Llinos Evans (Canolfan CFfI Cymru)
Joseff Llewellyn (Achub y Plant)
Mererid Lewis (Achub y Plant)
Rebecca Horder (Achub y Plant)
Sian Pitman (Gwasanaeth Eiriolaeth a Chyfrangiad Tros Gynnal)
Laurence Howells (Gwasanaeth Eiriolaeth a Chyfrangiad Tros Gynnal)
George Jones (Gwasanaeth Eiriolaeth a Chyfrangiad Tros Gynnal)
Jo Sims (Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru)
Chris Llewelyn (CLlLC)
Marina McConville (Cynulliad Gogledd Iwerddon)
Claire Cowan (Rheolwr Addysg Allgymorth y DU)
Sara Pickard (Mencap)
Clair McDonough (Senedd Ynys Manaw)
Kath Jenkins (Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Buddug Saer (Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Elise Stewart (Canllaw Ar-lein)
Owain Llyr ap Gareth (Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol)
Annabelle Harle (Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol)