Y Cynulliad Cenedlaethol yn gwella'i sgôr mewn mynegai o weithleoedd sy'n ystyriol o bobl hoyw
17 Ionawr 2013
Unwaith eto, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi fel un o'r cyflogwyr mwyaf ystyriol o bobl lesbaidd, hoyw a deurywiol yn y DU.
Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, a gynhyrchir gan Stonewall, y corff sy'n hybu hawliau cydraddoldeb, yn edrych ar amrywiaeth o ffactorau i fesur pa mor ystyriol o bobl hoyw yw sefydliadau.
Mae sgôr mynegai'r Cynulliad wedi codi 2 bwynt ac mae'n parhau yn y 30 uchaf yn y rhestr o gyflogwyr yn y DU, ac mae ymhlith y 5 uchaf yng Nghymru.
Un o'r ffactorau a fesurir yw'r modd y mae sefydliadau'n ymwneud â'r gymuned lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) ehangach.
Mae Stonewall Cymru wedi cydnabod llwyddiant gwaith y Cynulliad o ran ymwneud â'r gymuned drwy ei ddefnyddio fel astudiaeth achos.
Mae rhwydwaith staff y Cynulliad ar gyfer gweithwyr pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) hefyd, am yr ail flwyddyn yn olynol, wedi'i gydnabod fel rhwydwaith y dylid ei ystyried yn batrwm ar gyfer eraill.
“Rhaid i'r Cynulliad adlewyrchu gobeithion a dyheadau holl gymunedau Cymru os ydym am ennyn eu hyder,” meddai'r Llywydd, Rosemary Butler AC.
“Dyma'r bumed flwyddyn yn olynol inni gael ein gosod ymhlith y gweithleoedd mwyaf ystyriol o bobl hoyw yn y DU.
“Rwy'n ymfalchïo'n fawr yn hyn ac mae'n dangos bod y Cynulliad yn sefydliad modern sy'n cynrychioli holl gymunedau Cymru.
Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol â chyfrifoldeb am gydraddoldeb: “Hoffwn dalu teyrnged i staff y Cynulliad sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod yr holl raglenni ar waith i sicrhau bod y Cynulliad yn lle cyfeillgar a chadarnhaol i'n holl staff weithio ynddo.
“Eleni, mae Stonewall Cymru hefyd wedi'n defnyddio fel astudiaeth achos ar gyfer arfer da o ran ymwneud â'r gymuned LGBT ehangach, gan ddangos nad ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau, ond ein bod yn parhau i ymdrechu i wella.”
Yn y gorffennol, mae'r Cynulliad wedi ymgymryd â'r gwaith a ganlyn i greu gweithle sy'n fwy ystyriol o bobl hoyw:
Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol i ddathlu Mis Hanes LGBT
Rydym yn parhau i fynd â Bws y Cynulliad i wyl Mardi Gras Caerdydd lle mae'r Llywydd wedi areithio ar y prif lwyfan ac wedi cyfarfod â llawer o'r rhai a oedd yn bresennol
Rydym wedi ehangu'n gweithgareddau i ymwneud â'r gymuned drwy ymgynghori â grwpiau LGBT wrth ddatblygu'n Cynllun Cydraddoldeb ac wedi ffilmio fideos gwrth-fwlio ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Trawsffobia
Rydym yn cynhyrchu bwletinau cydraddoldeb bob mis sy'n cynnwys gwybodaeth, newyddion, cyhoeddiadau, cynadleddau LGBT etc
Rydym yn hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol drwy'n polisïau staff, ein hyfforddiant a'n sesiynau codi ymwybyddiaeth
Mae gennym uwch hyrwyddwr LGBT a nifer o uwch gydweithwyr heterorywiol sy'n hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol ac yn allanol
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gwelwyd newidiadau mawr ymhlith cyflogwyr Cymru ac mae'n arbennig o galonogol fod canran mor iach ohonynt ymhlith y 100 uchaf, a'u bod yn parhau i ganolbwyntio ar wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd gwaith.”
“Yn 2003, dywedodd un o bob pedwar a ymatebodd i'n hymchwiliad cyntaf iddynt gael eu diswyddo oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol. Wrth nodi ein 10fed pen-blwydd yng Nghymru, rydym yn falch iawn o'r newidiadau a welwyd yn ystod y cyfnod y hwn. Rydym yr un mor ymwybodol bod llawer o waith i'w wneud eto i sicrhau y gall y 114,000 o weithwyr Cymru sy'n lesbaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol fod yn driw iddynt eu hunain a pherfformio'n well oherwydd hynny.”
“Eleni, cawsom fwy o ymgeiswyr o Gymru nag erioed o'r blaen, ac roedd y gystadleuaeth yr un mor frwd ag erioed. Drwy gynnig arweiniad parhaus, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cadw ei safle fel un o'r cyflogwyr gorau yn y DU o safbwynt pobl hoyw. Llongyfarchiadau!”