Y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan

Cyhoeddwyd 17/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2016

​Bydd baneri Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn chwifio ar hanner mast ar 21 Hydref fel arwydd o barch i’r rhai a fu farw yn nhrychineb Aberfan.

Bydd munud o dawelwch hefyd yn cael ei gynnal ar ddechrau busnes y Cyfarfod Llawn ar 19 Hydref i nodi 50 mlynedd ers y digwyddiadau trasig yn y pentref glofaol yn Ne Cymru a achosodd i 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, golli eu bywydau.
 
Bydd llyfr o gydymdeimlad yn cael ei agor yn y Senedd ddydd Llun 17 Hydref er mwyn i ymwelwyr fyfyrio ar y digwyddiadau ym 1966. Bydd y llyfr hwn yn cael ei osod wrth ymyl un o’r llyfrau coffa swyddogol sy’n cynnwys enw pawb a gollodd ei fywyd yn Aberfan.
 
Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd, “Dyma drasiedi a oedd yn sioc i’r byd”.
 
“Mae’n briodol bod senedd Cymru yn nodi 50 mlynedd ers y trychineb hwn, ond rydym yn ymwybodol bod y gymuned yn Aberfan yn byw gyda’r drasiedi bob dydd.
 
“Mae cadernid y gymuned yn Aberfan yn wyneb adfyd yn dyst i grym gobaith hyd yn oed mewn trasiedi.”
 
Bydd digwyddiad coffaol hefyd yn cael ei gynnal yn y Senedd ar 19 Hydref a fydd yn cynnwys adrodd cerddi a ysgrifennwyd mewn ymateb i ffotograffau I.C. Rapoport ym 1966.
 
Yn ogystal ag arddangosfa yn y digwyddiad coffaol, bydd arddangosfa ddigidol o’r lluniau a dynnwyd yn fuan ar ôl y trychineb gan Chuck Rapoport, y ffotograffydd Americanaidd, sydd â’r teitl: “Aberfan – Atgofion ffotonewyddiadurwr” yn cael ei harddangos yn Oriel yr Arwyr yn y Pierhead rhwng 17 a 23 Hydref.