Y Cynulliad Cenedlaethol yn ymuno â chwyldro .cymru / .wales

Cyhoeddwyd 30/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Heddiw (30 Medi), bydd y gwefannau .cymru a .wales cyntaf yn mynd yn fyw pan fydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn newid yn swyddogol y rhan gyntaf o wefannau i'w parthau rhyngrwyd newydd, gan nodi diwrnod hanesyddol yn hanes digidol Cymru.

Dyma un o'r newidiadau mwyaf i'r rhyngrwyd yng Nghymru ers lansio'r we fyd-eang ym 1989.

Ac mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain y ffordd yn y chwyldro hwnnw, drwy fod ymhlith y cyntaf i ddefnyddio enwau parth .cymru / .wales.

Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymuno ag Ieuan Evans o gwmni cofrestru enwau parth y DU, sef Nominet, a'r Prif Weinidog yn y Senedd ar gyfer yr achlysur lansio swyddogol.

Dywedodd y Llywydd, "Mae cydnabyddiaeth brand yn hanfodol ar gyfer sefydliadau a busnesau er mwyn hyrwyddo eu gwaith a'u buddiannau yn llwyddiannus.

"Bydd brand .cymru / .wales yn help mawr i sefydliadau yng Nghymru wrth iddynt ymdrechu i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ledled y byd.

"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a chadarnhaol i Gymru. Rwy'n falch bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymryd rôl arweiniol yn y datblygiad hwn, gan gytuno i fod yn un o'r rhai cyntaf i gael yr enwau parth newydd.

"Byddwn yn annog pawb sydd â phresenoldeb ar y rhyngrwyd i ystyried mabwysiadu .cymru a .wales newydd, fel rhan o'u dyfodol.

Yn ymuno â'r Cynulliad Cenedlaethol wrth wneud y newid heddiw fydd Media Wales, gyda'u deunydd ar-lein, Wales Online a'r Daily Post a fydd yn newid i'w henwau parth newydd, Undeb Rygbi Cymru, Golwg360, Clark's Pies, Bloc, Gwalia, Atlantic PLC, Orchard a Portmeirion.

Wrth sôn am y digwyddiad hanesyddol hwn, dywedodd Ieuan Evans MBE, Cadeirydd Grŵp Cynghori Nominet Cymru, "Mae heddiw yn ddechrau cyfnod newydd i Gymru yn y byd digidol. Mae'r grŵp cyntaf o wefannau sy'n mynd yn fyw heddiw yn nodi dechrau'r fenter newydd ac arloesol hon i Gymru. Yng ngham nesaf y prosiect, caiff y cyfle hwn ei ymestyn i bob busnes ac unigolyn.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu'r enwau parth hyn gyda phawb yng Nghymru."

 http://eincartrefarlein.cymru/