Y Cynulliad i ethol cadeiryddion pwyllgorau wrth iddo bleidleisio ynghylch cynigion ar gyfer strwythur newydd i’r pwyllgorau

Cyhoeddwyd 28/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/06/2016

​Heddiw (28 Mehefin), gofynnir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar ffordd newydd o ethol cadeiryddion pwyllgorau. Am y tro cyntaf, rydym yn debygol o weld Aelodau’n cystadlu am swyddi’r cadeiryddion, gyda holl Aelodau’r Cynulliad yn penderfynu ar y canlyniad drwy gynnal pleidlais gudd.

“Mae penderfyniad y Pwyllgor Busnes i ganiatáu pleidlais gudd i ethol cadeiryddion y Cynulliad yn cyd-fynd â’r adduned rwyf wedi’i gwneud fel Llywydd i ddiogelu buddiannau holl Aelodau’r Cynulliad a thrin pob un ohonynt yn deg”, meddai Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad.

“Bydd y newid hwn yn sicrhau bod y broses ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau yn un agored a thryloyw, ac yn rhoi llawer mwy o awdurdod ac annibyniaeth i’r cadeiryddion. Bydd yn gosod sail gadarn a fydd yn galluogi’r Cynulliad i gyflawni nod Comisiwn y Cynulliad o ddarparu gwaith craffu trylwyr ac ystyrlon.”

Dyma brif nodweddion y gweithdrefnau newydd ar gyfer ethol cadeiryddion:

  • Yn y Cyfarfod Llawn, bydd y Cynulliad yn cytuno ar ba swyddi cadeirio i'w dyrannu i ba grwpiau gwleidyddol.
  • Yna, yn y Cyfarfod Llawn, caiff Aelod enwebu Aelod arall o'i grŵp i fod yn gadeirydd un o'r pwyllgorau sydd wedi'u dyrannu i grŵp y blaid honno (bydd angen i'r enwebiad gael ei eilio gan Aelod arall o'r grŵp os oes mwy nag 20 Aelod yn y grŵp).
  • Os bydd mwy nag un enwebiad ar gyfer swydd gadeirio, neu os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad unigol yn y Cyfarfod Llawn, cynhelir pleidlais gudd, gan ddefnyddio system o bleidleisio drwy ddewis enwau yn nhrefn blaenoriaeth.
  • Ar ôl ethol y cadeiryddion, bydd y Cynulliad yn cytuno ar weddill aelodau'r pwyllgorau.
  • Ni fydd modd diswyddo cadeirydd oni bai bod mwyafrif aelodau pwyllgor, yn cynnwys Aelodau o fwy nag un grŵp gwleidyddol, yn pleidleisio i wneud hynny, a bydd eu penderfyniad yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.

Gwahoddir enwebiadau yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, gan gynnal pleidlais gudd yfory (29 Mehefin) rhwng 12.00 a 15.00. Bydd y Llywydd yn cyhoeddi'r ymgeiswyr llwyddiannus yn ystod yr eitem olaf o fusnes ar 29 Mehefin.

Dyma strwythur y pwyllgorau:

Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): newid yn yr hinsawdd; ynni; rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth.

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r cyfryngau.

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; gwaith ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol; tai; adfywio, cydlyniant a diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol.

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn
Ystyried unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

Pwyllgorau Arbenigol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21 ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.

Y Pwyllgor Deisebau
Cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 23.

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Craffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy’n berthnasol i’r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 22.

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cyflawni'r swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3 ac ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Y Pwyllgor Cyllid
Cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 19; swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10 a 18.11; ac ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â Chronfa Gyfunol Cymru.

Gofynnir hefyd i'r Cynulliad dderbyn cynnig a fydd yn golygu y caiff cadeiryddion y pwyllgorau eu dyrannu i'r grwpiau gwleidyddol a ganlyn:

 

Pwyllgor

Cadeirydd

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 

Plaid Cymru

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Ceidwadwyr Cymreig

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Plaid Cymru

Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn

 

Llafur Cymru

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Deisebau

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog 

Dirprwy Lywydd y Cynulliad

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Ceidwadwyr Cymreig

Y Pwyllgor Cyllid

Plaid Cymru