Y Cynulliad i gwrdd i bleidleisio ar y Bil Coronofeirws dydd Mawrth

Cyhoeddwyd 21/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Bydd y Cynulliad yn cwrdd dydd Mawrth (Mawrth 24) er mwyn ystyried Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) sy'n ymwneud â Bil Coronofeirws sydd ger bron Senedd y DU. Daw hyn yn sgîl cais gan y Prif Weinidog i'r Llywydd, sydd wedi cytuno newid trefniadau Busnes yr wythnos i ddod. 

Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 10:00 yb. Yn ogystal â'r Memorandwm, mae'r busnes yn cynnwys yr hyn oedd wedi ei glustnodi ar gyfer dwy sesiwn gefn wrth gefn o'r Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, Mawrth 25. Mae hyn yn cynnwys cwestiynau i'r Prif Weinidog a datganiadau gan Weinidogion yn ymwneud â'r sefyllfa Coronofeirws. Ni fydd y Cynulliad yn cwrdd ddydd Mercher.

Mewn llythyr at aelodau, gofynnodd y Llywydd i unrhyw un ohonynt ei hysbysu os nad oes modd iddynt fynychu'r Busnes oherwydd salwch neu hunan-ynysu er mwyn ystyried yr agweddau iechyd cyhoeddus megis cadw pellter Cymdeithasol yn y Siambr.

Mae'r Pwyllgor Busnes yn ystyried yr opsiynau o gynnal parhad Busnes Cynulliad sydd yn allweddol yn yr wythnosau sydd i ddod - gan gyd-bwyso gallu'r Cynulliad i ddeddfu a chraffu materion yn ymwneud â COVID-19 gydag ystyriaethau iechyd cyhoeddus.