Cyhoeddwyd 02/10/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Y Cynulliad i nodi Iftar gyda Chyngor Mwslemiaid Cymru
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n dathlu Iftar ddydd Mawrth 2 Hydref gyda derbyniad yn y Senedd. Bydd cynrychiolwyr o’r ffydd Fwslemaidd a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru’n ymgynnull yn yr Oriel gyda’r Llywydd ac Aelodau’r Cynulliad i ddathlu achlysur torri ympryd yn ystod Ramadan.
Bydd Llywydd y Cynulliad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Saleem Kidwai, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru’n siarad yn y digwyddiad. Ymysg y rhai a fydd yn bresennol bydd y Prif Weinidog, Archesgob Cymru ac Archesgob Caerdydd.
Dywedodd y Llywydd: 'Mae’n anrhydedd cael croesawu Cyngor Mwslemiaid Cymru’n ôl i’r Senedd fel y gall Aelodau’r Cynulliad ymuno â’r Gymuned Fwslemaidd yng Nghymru i gadw Ramadan. Mae’r Senedd yn cynrychioli fforwm, agored, hygyrch a chynhwysol ar gyfer pobl Cymru, yn eu hamrywiaeth, felly mae’n briodol iawn ein bod yn dathlu Iftar yma.'