Y Cynulliad i nodi Iftar gyda Chyngor Mwslemiaid Cymru

Cyhoeddwyd 02/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i nodi Iftar gyda Chyngor Mwslemiaid Cymru

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n dathlu Iftar ddydd Mawrth 2 Hydref gyda derbyniad yn y Senedd. Bydd cynrychiolwyr o’r ffydd Fwslemaidd a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru’n ymgynnull yn yr Oriel gyda’r Llywydd ac Aelodau’r Cynulliad i ddathlu achlysur torri ympryd yn ystod Ramadan. Bydd Llywydd y Cynulliad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Saleem Kidwai, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru’n siarad yn y digwyddiad.  Ymysg y rhai a fydd yn bresennol bydd y Prif Weinidog, Archesgob Cymru ac Archesgob Caerdydd.     Dywedodd y Llywydd: 'Mae’n anrhydedd cael croesawu Cyngor Mwslemiaid Cymru’n ôl i’r Senedd fel y gall Aelodau’r Cynulliad ymuno â’r Gymuned Fwslemaidd yng Nghymru i gadw Ramadan. Mae’r Senedd yn cynrychioli fforwm, agored, hygyrch a chynhwysol ar gyfer pobl Cymru, yn eu hamrywiaeth, felly mae’n briodol iawn ein bod yn dathlu Iftar yma.'