Y Cynulliad yn ethol Pwyllgor i edrych ar ddeddfwriaeth arfaethedig i atal yr hawl-i-brynu
Mae’r Cynulliad wedi pleidleisio i sefydlu Pwyllgor i graffu ar ddeddfwriaeth newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar dai fforddiadwy.
Peter Black, Alun Davies, Lesley Griffiths, Mark Isherwood a Leanne Wood fydd Aelodau’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy.
Math o is-ddeddfwriaeth yw Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, sy’n trosglwyddo pwerau penodol o Senedd y DU i’r Cynulliad. Byddai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn yn rhoi pwerau i’r Cynulliad atal yr hawl-i-brynu mewn rhannau penodol o Gymru.
Rôl y Pwyllgor fydd ystyried a rhoi adroddiad ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig. Bydd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ac yn clywed tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol. Bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Iau 13 Rhagfyr.