Y Cynulliad yn ethol Pwyllgor i edrych ar ddeddfwriaeth arfaethedig i atal yr hawl-i-brynu

Cyhoeddwyd 12/12/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn ethol Pwyllgor i edrych ar ddeddfwriaeth arfaethedig i atal yr hawl-i-brynu          

Mae’r Cynulliad wedi pleidleisio i sefydlu Pwyllgor i graffu ar ddeddfwriaeth newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar dai fforddiadwy.  

Peter Black, Alun Davies, Lesley Griffiths, Mark Isherwood a Leanne Wood fydd Aelodau’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy.

Math o is-ddeddfwriaeth yw Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, sy’n trosglwyddo pwerau penodol o Senedd y DU i’r Cynulliad.  Byddai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn yn rhoi pwerau i’r Cynulliad atal yr hawl-i-brynu mewn rhannau penodol o Gymru.

Rôl y Pwyllgor fydd ystyried a rhoi adroddiad ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig.  Bydd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ac yn clywed tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol.  Bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Iau 13 Rhagfyr.