Y Cynulliad yn nodi Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia

Cyhoeddwyd 13/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/05/2015

​Bydd y Cynulliad yn nodi Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia (IDAHOT) ar 17 Mai, drwy chwifio baneri'r Enfys ar ei ystâd.

Mae'n dangos ymrwymiad parhaus y Cynulliad i gydraddoldeb LGBT yn dilyn cydnabyddiaeth gan Stonewall, y sefydliad hawliau cyfartal, fel y pedwerydd lle gorau i weithio yn y DU ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, "Mae IDAHOT yn ddiwrnod pwysig yn y calendr Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)."

"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i gydraddoldeb ym mhopeth a wna, o adlewyrchu hawliau staff i gydraddoldeb yn ei holl waith, ac yn y cyfreithiau a gaiff eu pasio ganddo.

"Mae cefnogi ymgyrch IDAHOT yn dangos ymhellach ein hymrwymiad i gydraddoldeb yn y gweithle ac yn y gymuned ehangach yng Nghymru."

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bedwerydd ar restr 2015 o'r llefydd mwyaf cyfeillgar yn y DU i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol weithio.

Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, a gynhyrchir gan y sefydliad hawliau cyfartal, Stonewall, yn edrych ar amrywiaeth o bethau er mwyn mesur sut mae sefydliadau'n cefnogi staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Mae'r Cynulliad wedi cael ei restru yn Rhif 4 ymhlith y 100 cyflogwr gorau yn y DU ac eleni, am yr ail flwyddyn yn olynol, y Cynulliad yw'r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymgymryd â'r gwaith a ganlyn i sicrhau bod y Cynulliad yn lle mwy hoyw-gyfeillgar i weithio:

  • Rydym wedi mynd â'n Bws Allgymorth i Pride Cymru a Swansea Pride er mwyn ymgysylltu â'r gymuned LGBT ac annog ymgysylltiad democrataidd;
  • Rydym wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu cydraddoldeb LGBT ac i ddangos ein hymrwymiad i Fis Hanes LGBT ac i'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia;
  • Mae gennym gynllun Cynghreiriaid LGBT lle gall staff nad ydynt yn LGBT ddangos eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i gydraddoldeb LGBT;
  • Rydym yn hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol drwy ein polisïau staff cynhwysol, ein hyfforddiant penodol ar gyfer staff LGBT a'n sesiynau codi ymwybyddiaeth ;
  • Mae gennym uwch-hyrwyddwr LGBT a nifer o uwch-gynghreiriaid sy'n hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol ac yn allanol.

Sandy Mewies AC yw Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, ac mae hi a'r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC, hefyd wedi llofnodi Dim Anwybyddu, sef addewid gwrth-fwlio Stonewall.

Llofnodwyd yr addewid hefyd gan Fwrdd Rheoli'r Cynulliad, contractwyr sy'n gweithio ar y safle a staff ar draws y Cynulliad.

Dywedodd Sandy Mewies, "Mae'r Cynulliad wedi ymrwymo i gael gwared ar fwlio o unrhyw fath yn y gweithle.  Dyna pam rydym yn fwy na bodlon cefnogi IDAHOT."