Y Llywydd i osod torch wrth gofeb Cymru yn Fflandrys

Cyhoeddwyd 14/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Bydd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn gosod torch ar 16 Awst ar gofeb newydd ar gyfer y cannoedd o arwyr o Gymru fu farw yn un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r gofeb wedi cael ei hadeiladu yn Langemark, ger Ypres, i goffáu milwyr o'r 38ain Adran (Cymreig) a fu'n ymladd ac a fu farw ar Gefn Pilckem yn ystod Brwydr Passchendaele, Gwlad Belg, yn ystod 1917.

Ymhlith y rhai a laddwyd yn y frwydr y bydd y gofeb yn eu hanrhydeddu yw'r bardd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans).

Mae'r gofeb wedi cael ei hadeiladu diolch i ymdrechion Peter Carter Jones, heddwas wedi ymddeol, a sefydlodd ymgyrch i godi arian yn dilyn taith i Langemark yn 2010.

"Mae llawer o gofebion i nodi'r aberth a wnaed yn Passchendaele gan ddynion o lawer o wledydd," dywedodd y Fonesig Rosemary.

"Ond hyd yn hyn, ni fu teyrnged benodol i aberth y milwyr o Gymru fu farw yn ystod y frwydr waedlyd honno.

"Hoffwn ddiolch i Peter, ac i bawb sy'n rhan o'r ymgyrch hon, am eu gwaith diflino i godi arian ac, yn y pen draw, i wireddu'r gofeb bwysig hon.

"Wrth i ni nodi 100 mlynedd ers y rhyfel creulon hwn, rydym yn cydnabod yr aberth a wnaed gan y miloedd o filwyr o Gymru. Mae'n anrhydedd i mi gynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth osod torch ar y gofeb hon."

Bydd arweinwyr y pedair plaid wleidyddol yng Nghymru yn ymuno â'r Llywydd yn y seremoni ar 16 Awst.

Dywedodd Peter Carter Jones: “Ar ran Ymgyrch Cofeb y Cymry yn Fflandrys, rwy’n falch o weld y bydd y Fonesig Rosemary Butler AC yn bresennol i gynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gosod torch ar ran y Cynulliad, yn y gwasanaeth pwysig hwn i anrhydeddu aberth milwyr o Gymru a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chofio amdanynt.”