Y Llywydd i wneud un o’r prif areithiau mewn cynhadledd ar waith craffu

Cyhoeddwyd 20/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd i wneud un o’r prif areithiau mewn cynhadledd ar waith craffu

20 Medi 2010

Heddiw (20 Medi), bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi un o’r prif areithiau mewn cynhadledd sy’n archwilio effeithiolrwydd y gwaith o graffu ar waith y Llywodraeth ar wahanol lefelau yng Nghymru.

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn annerch y gynulleidfa yn ‘Golwg ar Graffu’, ynghyd â chynrychiolwyr o lywodraeth leol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill, yn y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Trefnwyd y gynhadledd mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Sefydliad Bevan a Positif Politics, a bydd yn archwilio sut y caiff gweithredoedd a phrosesau cyrff cyhoeddus eu harchwilio ac a ellir gwneud unrhyw beth i wella atebolrwydd.

Bydd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, hefyd yn cymryd rhan mewn panel trafod gydag Aelodau o’r Cynulliad, sef Darren Millar, Ann Jones a Dr Dai Lloyd.

Bydd araith yr Arglwydd Elis-Thomas yn ystyried effeithlonrwydd swyddogaethau craffu’r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl mwy na 10 mlynedd o ddatganoli, ac yn gofyn sut y gellir gwella deddfwrfa Cymru, drwy yr arolwg presennol o Reolau Sefydlog, er enghraifft.

Dywedodd y Llywydd: “Mae’r gynhadledd hon yn cynnig cyfle gwych i drafod natur gwaith y Cynulliad o fis Mai y flwyddyn nesaf.

“Ar ddechrau’r Trydydd Cynulliad, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a gafodd y gair olaf ar Reolau Sefydlog y Cynulliad. Wrth i ni nesáu at y Pedwerydd Cynulliad, y ni sydd bellach yn gyfrifol am adolygu ac ailysgrifennu ein Rheolau Sefydlog ein hunain.

“Fodd bynnag, mae’r gwaith craffu ar bolisi a deddfwriaeth yn parhau i fod yn un o gyfrifoldebau craidd y Cynulliad. Mae ein hadolygiad presennol o’r Rheolau Sefydlog yn ceisio sicrhau bod y Cynulliad cyfan yn aros yn gwbl dryloyw, ein bod yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud ei gwaith heb rwystr, a’n bod hefyd yn rhoi cyfle i’r gwrthbleidiau ddatgan eu hachos.

“Mae gwaith craffu effeithiol wrth wraidd democratiaeth. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn y gynhadledd, a chlywed barn bobl am sut y gallwn wella ein swyddogaethau craidd.”