Y Llywydd yn ailgynnull Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 07/12/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn ailgynnull Cynulliad Cenedlaethol Cymru

07 Rhagfyr 2012

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn galw Aelodau'r Cynulliad yn ôl o doriad y Nadolig ddydd Mercher 19 Rhagfyr.

Mae'r penderfyniad yn dilyn cais gan Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog, i drafod dau set o Reoliadau fel mater o bwys cyhoeddus, sef:

  • y Rheoliadau drafft, Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012; a

  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012.

Dywedodd y Llywydd: "Wrth benderfynu ailgynnull y Cynulliad ar 19 Rhagfyr, rwy'n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng y galwadau i ystyried y Rheoliadau hyn fel mater o bwys a'r angen i ddarparu digon o amser i graffu arnynt yn ddigonol.

"Hoffwn ddiolch i David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, sydd wedi dweud, ac yntau'n Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y bydd yn gwneud popeth posibl i sicrhau y bydd ei Bwyllgor yn craffu ar y Rheoliadau diwygiedig ac adrodd arnynt cyn y ddadl."