Y Llywydd yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer setliad cyfansoddiadol cryf a chlir
1 Mawrth 2013
Heddiw, amlinellodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei gweledigaeth ar gyfer setliad cyfansoddiadol cryf a chlir ar gyfer y Cynulliad a phobl Cymru.
Yn ei chyflwyniad i Gomisiwn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Ddatganoli yng Nghymru (y Comisiwn Silk), dywed fod angen gwneud newidiadau i sicrhau:
bod gan y sefydliad y gallu i gyflawni ei swyddogaethau;
bod terfynau pwerau’r Cynulliad yn glir ac yn ddealladwy; a
bod gan y Cynulliad yr ymreolaeth fwyaf posibl i weithredu ar faterion sy’n effeithio ar Gymru.
Dywed y byddai gwneud y newidiadau hyn yn ‘sicrhau bod y Cynulliad yn sefydliad democrataidd cryf, hygyrch ac arloesol, ac yn ddeddfwrfa sy’n gweithredu’n effeithiol ar ran pobl Cymru’.
Mae’r cyflwyniad hwn yn adlewyrchu sefyllfa a phrofiad unigryw y Llywydd wrth weithredu’r system gyfredol o ddatganoli.
Yn gyntaf, wrth drafod gallu’r Cynulliad i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, cynrychioli pobl Cymru a deddfu dros Gymru, dywed Rosemary Butler ‘o ystyried y cyfrifoldeb mawr sydd ar ysgwyddau’r sefydliad, a’r pwysau gwaith anochel y mae Aelodau’n ei wynebu, nid oes amheuaeth y dylid cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad o 60 i 80’.
Yn ail, mae’r Llywydd yn darparu dadansoddiad unigryw wybodus o eglurder pwerau deddfwriaethol y Cynulliad. Mae’n nodi nifer o esiamplau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sy’n dangos sut y mae terfynau cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad - y meysydd polisi y mae gan y Cynulliad y pwer i ddeddfu ynddynt - yn aneglur ac yn ansicr.
‘Mae sicrwydd a disgwyliadwyedd yn nodweddion dymunol mewn unrhyw system ddemocrataidd a dylid diffinio cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad er mwyn rhoi rhagor o sicrwydd cyfreithiol i ni fel ein bod yn gallu deddfu’n effeithiol ac yn hyderus’.
Yn drydydd, dywed y Llywydd y dylai’r Cynulliad, fel sefydliad sydd bellach yn cael ei gyfiawnhau a’i gefnogi’n frwd gan y cyhoedd, gael yr ymreolaeth fwyaf posibl i weithredu ar faterion sy’n effeithio ar Gymru.
Dywed y Llywydd ‘mae cyflymder y newid cyfansoddiadol yng Nghymru wedi bod yn ddramatig, ac mae’r sefydliad heddiw yn wahanol iawn i’r un a ragwelwyd gan Senedd y DU more ddiweddar â 2006’.
‘Dylid cydnabod ar lefel sylfaenol mai’r Cynulliad, nid Senedd y DU, sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu drosto’i hun ar faterion penodol, ac ni ddylai fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau diangen.’
I adlewyrchu aeddfedrwydd cynyddol y sefydliad fel deddfwrfa, dywed y Llywydd y dylid ei ddisgrifio fel Senedd yn hytrach na Chynulliad.
Mae hefyd yn galw ar nifer o swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â’r Cynulliad i gael eu diddymu.
‘Er enghraifft, mae’n bosibl bod y gofyniad bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymddangos gerbron y Cynulliad yn bersonol i gyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU wedi bod yn briodol pan oedd Senedd y DU yn chwarae rhan sylweddol yng ngallu’r Cynulliad i ddeddfu ond, i mi, nid yw’r berthnasol heddiw.’