Y Llywydd yn cadeirio cynhadledd ar gydraddoldeb rhywiol mewn democratiaeth i gynrychiolwyr o bob rhan o Ewrop

Cyhoeddwyd 23/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol, yn  croesawu seneddwyr o bob rhan o Ewrop i'r Senedd ar 26 Mehefin.

Maent i gyd yn aelodau o CALRE - Cynhadledd Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop - y corff ymbarél sy'n cynrychioli cadeiryddion seneddau gwladwriaethau ffederal deddfwriaethol Ewrop.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ynysoedd Åland, Galicia, Lombardi, seneddau Fflandrys ac Walonia a Ffederasiwn Wallonie-Bruxelles yng ngwlad Belg.

Bydd y Fonesig Rosemary yn cadeirio gweithgor o'r enw: CYDRADDOLDEB RHYWIOL: hybu cyfranogiad merched mewn democratiaeth '.

Un o brif flaenoriaethau'r Fonesig Rosemary ers iddi ymgymryd â'r swydd fel Llywydd y Cynulliad yn 2011 yw tynnu sylw at y mater pwysig hwn.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ennill cydraddoldeb rhywiol yn ei deddfwrfa genedlaethol yn 2003 ac, yn 2006, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i fod â mwy o ferched na dynion yn ei senedd.

"Rwy'n credu bod gan y Cynulliad Cenedlaethol Cymru stori dda i'w hadrodd o safbwynt cydraddoldeb rhywiol mewn democratiaeth," meddai'r Llywydd.

"Ond mae llawer iawn o waith i'w wneud i sicrhau bod rhagor o ferched yn cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, ac mewn gwleidyddiaeth rheng flaen yn benodol.

"Mae sesiynau tebyg i hon y byddwn yn ei chynnal yn y Senedd yn gyfle pwysig i seneddwyr ledled Ewrop rannu syniadau ynghylch sut i fynd i'r afael â phroblem sy'n wynebu'r rhan fwyaf o wledydd y byd."

Yn ystod y gynhadledd, bydd y Fonesig Rosemary yn cadeirio sesiwn a fydd yn canolbwyntio ar ei hymgyrch  #POWiPL - Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus .

Nod yw ymgyrch hon yw ystyried ffyrdd o sicrhau bod rhagor o ferched yn cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

Bydd yr ymgyrch a'r gynhadledd hon yn rhan bwysig o'i hetifeddiaeth pan fydd y Llywydd yn gadael ei swydd y flwyddyn nesaf.

Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan gynrychiolwyr seneddau Ynysoedd Åland a Galicia, a fydd yn tynnu sylw at y gwaith a wnaed yn y seneddau i hybu cydraddoldeb rhywiol.

Caiff canlyniadau a chasgliadau'r gynhadledd eu cofnodi mewn adroddiad ar weithgareddau CALRE yn ystod 2015.

Bydd y gynhadledd, a chyfraniad Cymru ati, yn tynnu sylw at y fantais o greu rhwydweithiau seneddol ar hyd a lled Ewrop i rannu llwyddiant ac arloesedd.