Y Llywydd yn cyfarfod â’i gymheiriaid o Ogledd Iwerddon a’r Alban

Cyhoeddwyd 11/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Llywydd yn cyfarfod â’i gymheiriaid o Ogledd Iwerddon a’r Alban

Mae Llywyddion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban am gynnal eu cyfarfod cyntaf ers ymgymryd â’u swyddi. Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, William Hay ac Alex Fergusson yn cyfarfod ym Melfast heddiw (dydd Mawrth 11 Medi) i drafod yr her sy’n eu hwynebu yn eu swyddi ac i rannu arfer da. Byddant yn trafod llywodraethu corfforaethol, cyfathrebu â’r byd ehangach a chynrychioli deddfwrfeydd gartref a thramor.    Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Fel Llefarwyr a Llywyddion y tair deddfwriaeth ddatganoledig yn y DU, rydym yn wynebu nifer o broblemau tebyg a bydd yn ddefnyddiol iawn eu trafod. Byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau ac i ddysgu o brofiadau’n gilydd.” Y cyfarfod hwn fydd y tro cyntaf i’r Llywyddion gyfarfod yn ffurfiol ers 2002, pan gyfarfu Syr David Steel, yr Arlgwydd Alderdice a’r Arglwydd Elis-Thomas yn Stormont.