Y Llywydd yn llongyfarch y Dug a'r Dduges ar enedigaeth yr aelod newydd o'r teulu Brenhinol
23 Gorffennaf 2013
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi anfon llythyr yn llongyfarch Dug a Duges Caergrawnt ar enedigaeth ei mab.
Mae hi'n dweud yn ei llythyr: “Ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn estyn llongyfarchiadau gwresog i'r rhieni newydd ar enedigaeth yr aelod newydd o'r teulu.
“Boed i chi fwynhau'r amser arbennig hwn gan wybod fod y genedl hefyd yn dathlu bod y Babi Brenhinol wedi cyrraedd yn saff.
“Edrychwn ymlaen at groesawu aelod newydd y Teulu Frenhinol i Gymru yn y dyfodol agos.”