Y Llywydd yn talu teyrnged i Nelson Mandela

Cyhoeddwyd 06/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn talu teyrnged i Nelson Mandela

6 Rhagfyr 2013

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi talu teyrnged i Nelson Mandela, cyn Arlywydd De Affrica a ffigwr amlycaf y sefydliad gwrth-apartheid.

Dywedodd y Llywydd: “Defnyddir y gair 'gwych' yn aml i ddisgrifio pobl, ond roedd Nelson Mandela yn wir yn ddyn gwych.

“Mae’r hyn a gyflawnodd Mandela ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar yn ei wneud yn ffigwr amlwg a nodedig yn hanes y byd.

“Gweithiodd yn agos gyda'i gyn-ormeswyr i roi terfyn ar apartheid ac i sicrhau bod y drefn o reoli'r wlad gan y lleiafrif gwyn yn trosglwyddo i system o etholiadau aml-hil rhydd yn Ne Affrica.

“Pan gafodd ei ethol yn Arlywydd, roedd cymodi cenedlaethol ar frig agenda Nelson Mandela, a sicrhaodd bod y glymblaid ehangaf yn rhan o'i gabinet, a gwnaeth F W De Klerk yn Ddirprwy Arlywydd.

“Sicrhaodd nad oedd unrhyw ymgais i gosbi pobl wyn o Dde Affrica drwy gael gwared ohonynt o swyddi yn y llywodraeth na'u cosbi mewn ffyrdd eraill.

“Enillodd y dull gweithredu hwn ganmoliaeth ledled y byd, yn ddigon teg, ac er bod trais yn y wlad yn ystod y cyfnod trosglwyddo, heb amheuaeth, roedd arweinyddiaeth Nelson Mandela wedi atal y sefyllfa rhag datblygu'n rhywbeth mwy marwol.

“Dyna fawredd y dyn. Er gwaethaf popeth yr aeth ef fel unigolyn, a phobl dduon De Affrica yn gyffredinol, drwyddo yn ystod y blynyddoedd apartheid, llwyddodd i weithio gyda'r gormeswyr er mwyn sicrhau bod De Affrica yn wlad ddemocrataidd a rhydd i bawb.

“Fe adawodd y byd yn le gwell oherwydd ei gyfraniad.”