Y Llywydd yn ymuno â chyn-filwyr y Llynges Fasnachol i nodi Dydd y Cofio
Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynychu gwasanaeth Dydd y Cofio y Llynges Fasnachol ger Cofeb y Llynges Fasnachol ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn, 8 Tachwedd am 11 o’r gloch y bore. Wedi iddo osod torch ar ran y Cynulliad bydd yn cynnal derbyniad yn y Senedd i’r rhai sy’n dod i’r gwasanaeth.
Mae cysylltiadau cryf rhwng y Cynulliad a Chymdeithas y Llynges Fasnachol ac mae’r Arglwydd Elis-Thomas, fel Noddwr y Gymdeithas yn mynychu digwyddiad Diwrnod y Llynges Fasnachol a gwasanaeth Dydd y Cofio’n rheolaidd. Mae Cofeb y Llynges Fasnachol, sy’n ganolbwynt cofio’r aberth a wnaethpwyd wrth i’r Llynges Fasnachol hwylio o borthladdoedd Cymru yn y ddau Ryfel Byd, wedi’i lleoli ar lwyfan llechen y Senedd.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn hynod o falch fod cofeb y llynges fasnachol mor agos i’n cartref ni ym Mae Caerdydd. Mae’n bwysig bod y Cynulliad yn cydnabod ac yn anrhydeddu’r cyfraniad hanfodol a wnaethpwyd gan y masnachlongwyr o’r ardal hon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Yr oedd adeilad y Lanfa, sy’n rhan o ystâd y Cynulliad, hefyd yn safle yr oedd miloedd o fasnachlongwyr yn falch iawn o’i weld wrth iddynt ddychwelyd i borthladd Caerdydd wedi misoedd ar y môr.”
Nodyn i olygyddion:
1.Ffurfiwyd Cymdeithas y Llynges Fasnachol ym 1995 i ddod â masnachforwyr a phawb sydd wedi gwasanaethu a sy’n parhau i wasanaethu, yn y Llynges Fasnachol ynghyd mewn ysbryd o gyfeillgarwch.
2.Rhoddwyd i’r Gymdeithas ryddfraint Dinas a Sir Caerdydd ym mis Medi 2001, a rhyddfraint Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2005.
3.I gael rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas cysylltwch â: Mr Byron Jones, Ysgrifennydd, ar y rhif 01433 815013 neu byron@blackranger.plus.com