Y Llywydd yn ymuno â staff meddygol o Gymru sy'n paratoi i fynd i Affganistan
10 Mai 2013
Ymunodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â meddygon a nyrsys o Gymru a oedd yn ymarfer yng Nghaerefrog yn ddiweddar.
Roedd y gwirfoddolwyr o Ysbyty Maes 203 (Cymru) yn cymryd rhan mewn asesiadau cyn cael eu hanfon i Affganistan yn ddiweddarach eleni.
Ymunodd y Llywydd, a fu'n wirfoddolwr gyda'r Fyddin Diriogaethol ei hun ar un adeg, gyda'r meddygon a'r nyrsys wrth iddynt gymryd rhan mewn asesiadau a senarios penodol i baratoi i gynorthwyo'r fyddin.
"Roedd yn fraint cael gwahoddiad i wylio'r gwirfoddolwyr o Gymru yn paratoi i gynorthwyo'n milwyr yn Affganistan" meddai'r Llywydd.
"Mae gwirfoddolwyr y Fyddin Diriogaethol yn treulio llawer o'u hamser sbâr yn gwasanaethu eu gwlad ac maent yn cyflawni gwaith hanfodol yn cynorthwyo ein lluoedd arfog llawn amser.
"Mwynheais fy nghyfnod gyda'r Fyddin Diriogaethol yn aruthrol a daeth llu o atgofion yn ôl wrth imi wylio'r gwirfoddolwyr yn cydweithio mor agos.
"Ond mae'n brofiad sobreiddiol gweld natur yr anafiadau y mae'r staff meddygol yn paratoi i'w trin.
"Roedd yn gwneud i bawb a oedd yn gwylio'r ymarfer sylweddoli bod dynion a merched ifanc yn parhau i beryglu eu bywydau i wasanaethu eu gwlad yn Affganistan."
Cynhaliwyd yr asesiadau yng Nghanolfan Hyfforddi Gwasanaethau Meddygol y Fyddin ger Caerefrog.
Mae Gwasanaethau Meddygol y Fyddin Diriogeaethol yn darparu gofal meddygol arbenigol lle bynnag y mae'n gweithredu yn y byd.
Er mwyn parhau i weithio'n effeithiol, bydd y Gwasanaeth yn recriwtio pobl o bob rhan o'r sector gofal iechyd, o staff meddygol cymwysedig i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.
Mae'r rolau unigol yn y Gwasanaeth yn dibynnu'n llwyr ar sgiliau, cymwysterau a thalentau proffesiynol.
Lle bynnag yn y byd y bydd y fyddin yn cael eu hanfon, bydd y gweithwyr iechyd proffesiynol gorau bosibl o Ysbyty Maes 203 (Cymru) (Gwirfoddolwyr) yno i'w cynorthwyo, ac mae ganddynt ran bwysig yn strwythur gwasanaethau meddygol y Fyddin Diriogaethol.
Yng ngogledd Llandaf yng Nghaerydd mae pencadlys yr uned ac mae is-orsafoedd ar hyd a lled Cymru.
Yn y llun, o’r chwith i’r dde:y Swyddog Gwarantedig Tony Hampson o Gaerffili, y Corporal Kevin Pritchard o Gaernarfon, y Llywydd Rosemary Butler AC, a’r Padre Martin Spain o Hwlffordd.