Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a David Melding AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad, yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 27 Ionawr.
Cynhelir y seremoni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd am 11.00.
Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i gofio am y digwyddiadau erchyll a welwyd yn ystod canol y ganrif ddiwethaf.
"Mae'r erchyllterau a gyflawnwyd gan y Natsïaid yn ein hatgoffa ni i gyd o allu pobl i achosi poen a dioddefaint annisgrifiadwy i'w cyd-ddyn.
"Er mwyn atal hil-laddiadau yn y dyfodol, rhaid inni sicrhau ein bod yn cofio'r rhai a fu farw mewn gwersylloedd yn yr Almaen a Dwyrain Ewrop."