Heddiw (8 Hydref) bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal y milfed Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn nodi'r digwyddiad hanesyddol drwy edrych ymlaen at y mil o gyfarfodydd nesaf.
Defnyddiodd yr achlysur i ategu'r alwad i San Steffan gryfhau gallu'r Cynulliad i graffu ar ddeddfwriaeth ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae tair thema allweddol yn ganolog i'w gweledigaeth ar gyfer gwella gwaith y Cynulliad yn y dyfodol:
- ei gwneud yn haws i bawb ddeall y pwerau sydd gan y Cynulliad drwy symud at fodel pwerau a gedwir yn ôl, fel yr Alban;
- sofraniaeth i'r Cynulliad fel na all San Steffan benderfynu ar ddyfodol y Cynulliad, neu reoli penderfyniadau ar faterion fel enw'r Cynulliad a'r trefniadau etholiadol; a
- chynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i adlewyrchu cyfrifoldebau ychwanegol y Cynulliad a chyfrifoldebau posibl yn y dyfodol.
"Mae heddiw'n nodi milfed Cyfarfod Llawn y Cynulliad ers ei sefydlu ym 1999," meddai'r Fonesig Rosemary.
"Mae 19 ohonom ni yma heddiw a oedd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf hwnnw ar 18 Mai 1999.
"Mae llawer wedi digwydd yn ystod y mil o gyfarfodydd hynny, ac mae'r Cynulliad heddiw yn gwbl wahanol mewn llawer ffordd i'r un a gyfarfu gyntaf bymtheng mlynedd yn ôl.
"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Cynulliad, yn ystod y mil nesaf o gyfarfodydd, yn gweld llawer mwy o newidiadau ac y bydd gennym setliad cyfansoddiadol sy'n rhoi i'r Cynulliad y pwerau a'r adnoddau y mae eu hangen arno i gynrychioli pobl Cymru ac i newid eu bywydau er gwell."