Y Pwyllgor Archwilio’n cyhoeddi adroddiad ar brosiect Canolfan Mileniwm Cymru.

Cyhoeddwyd 10/12/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio’n cyhoeddi adroddiad ar brosiect Canolfan Mileniwm Cymru.

Heddiw (ddydd Mercher), bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiad ar Ariannu Canolfan Mileniwm Cymru. Ar sail adroddiad a baratowyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, Arian ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru, mis Hydref 2008), bu’r pwyllgor yn ystyried a oedd prif arianwyr sector cyhoeddus y prosiect – Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Celfyddydau Cymru – wedi rheoli’r risgiau a oedd ynghlwm ag ariannu Canolfan y Mileniwm yn effeithiol.  

Dyma ddau brif ganfyddiad yr adroddiad:

  • Rheolodd y prif arianwyr y risgiau a oedd ynghlwm â’r cyfnod adeiladu yn dda, er bod rhai gwersi i’w dysgu o hyd

  • Yn gyffredinol, nid oedd yr arianwyr yn ddigon effro i’r risgiau a oedd ynghlwm â’r cyfnod gweithredol, ac roedd gwaith monitro Llywodraeth y Cynulliad, ar ôl i’r Ganolfan agor, yn gwbl annigonol.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn adeilad eiconig ac roedd yn brosiect risg uchel o’r cychwyn. Er gwaethaf y peryglon amlwg, ni luniodd Cyngor y Celfyddydau na Llywodraeth y Cynulliad gynllun cydlynol ar gyfer monitro gweithgaredd Canolfan y Mileniwm. Dim ond pan gyrhaeddwyd sefyllfa ariannol argyfyngus ym mis Hydref 2006 y dechreuodd Llywodraeth y Cynulliad ddatblygu dealltwriaeth ddigonol o sefyllfa ariannol Canolfan y Mileniwm. Mae’n bwysig bod trefniadau’n cael eu gweithredu er mwyn sicrhau na fydd y sefyllfa hon yn codi eto.”

Mae’r adroddiad yn gorffen drwy argymell y mesurau a ganlyn:

  1. Bod Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor y Celfyddydau yn cyflwyno adroddiad ynghylch sut y maent yn bwriadu ymateb i bob un o argymhellion adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol;

  2. Yn y dyfodol, pan fydd gofyn i Aelodau’r Cynulliad bleidleisio ar ariannu prosiectau ariannol, dylid rhoi asesiad llawn o’r ariannu a’r risgiau ariannol iddynt;

  3. Dylai Llywodraeth y Cynulliad ailystyried a ddylai Cyngor y Celfyddydau gymryd y cyfrifoldeb am ariannu, ac felly, monitro, Canolfan y Mileniwm;

  4. Dylai Llywodraeth y Cynulliad gomisiynu ei wasanaeth archwilio mewnol i archwilio ansawdd trefniadau monitro Canolfan y Mileniwm ac a ydynt yn gweithredu fel y’u bwriadwyd.

Mae copïau o’r adroddiad ar gael yn : Y Pwyllgor Archwilio

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i saith o sefydliadau, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Ers iddi agor ym mis Tachwedd 2004, llwyddodd y Ganolfan i ddenu cynulleidfaoedd o dros filiwn, yn ogystal â 3 miliwn o ymwelwyr eraill. Ariannwyd Canolfan y Mileniwm, a gostiodd £109 miliwn i’w hadeiladu, ar y cyfan gan y sector cyhoeddus (Ffigur 1).

Ffigur 1: Arian cyfalaf ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru

Y Pwyllgor Archwilio’n cyhoeddi adroddiad ar brosiect Canolfan Mileniwm Cymru.

Ariannwr

£miliwn

Llywodraeth Cynulliad Cymru

37.0

Comisiwn y Mileniwm

31.7

Cyngor Celfyddydau Cymru

9.8

Awdurdod Datblygu Cymru

4.0

Cyrff cyhoeddus eraill

3.4

Eraill (arian preifat gan gynnwys lwfansau treth cyfalaf, rhoddion a benthyciad)

23.4

Cyfanswm y gost*

109.3

* £106.2 miliwn fel y cytunwyd arno gan Lywodraeth y Cynulliad, a rhyw £3 miliwn ar gyfer gweithgareddau diwylliannol ychwanegol, y gala agoriadol a chostau prosiect eraill

Ffynhonnell: Archwilydd Cyffredinol Cymru