Y Pwyllgor Archwilio’n gweld bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol yn ymwneud â blocio gwelyau

Cyhoeddwyd 20/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio’n gweld bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol yn ymwneud â blocio gwelyau

Mae adroddiad Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad i achosion o ohirio wrth drosglwyddo gofal (neu flocio gwelyau) yn y GIG wedi dod i’r casgliad fod angen cymryd camau i sicrhau bod yr holl system yn gweithio’n effeithiol ac i leihau effaith gynyddol y broblem hon.

Mae adroddiad y Pwyllgor, sef Mynd i’r afael ag achosion o drosglwyddo gofal yn y system gyfan, a gyhoeddir heddiw, yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys gweledigaeth leol glir o’r modelau gwasanaeth i hyrwyddo annibyniaeth pobl hyn sy’n agored i niwed a chryfhau’r prosesau fel bo’r ddarpariaeth yn canolbwyntio ar y gofal sydd ei angen ar bobl. Mae’r adroddiad hefyd yn dweud nad yw’r prosesau comisiynu wedi’u datblygu’n ddigonol a bod angen sicrhau bod y cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i hyrwyddo annibyniaeth.

Gwelodd y Pwyllgor fod nifer y bobl sy’n dioddef oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal, wedi gostwng dros gyfnod, ond nad yw hynny, ynddo’i hun, yn ffordd dda o fesur maint y broblem gan nad yw’n dangos am ba hyd y mae’n rhaid i bobl aros. Ffordd well o fesur y broblem yw drwy gyfrif nifer y diwrnodau gwelyau a ddefnyddiwyd gan bobl oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal  ac mae’r ffigwr yn y cyswllt hwn yng Nghymru gyfan wedi codi 2 y cant rhwng 2005-06 a 2006-07 o 262,595 i 268,491.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau bod ei harweiniad, ei chyllidebau, ei blaenoriaethau, ei mesuriadau perfformiad, a’i chymhellion yn cyd-fynd yn well â’i gweledigaeth ar gyfer y system gyfan, yn enwedig drwy wella’r systemau mesur presennol, sy’n anghywir ac yn tanddatgan maint y broblem.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn niweidiol i’r bobl sy’n aros am ofal ac i’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.  Gall y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn, gan fygwth annibyniaeth pobl hyn sy’n agored i niwed, sef mwyafrif y rheini sy’n dioddef oherwydd oedi. Mae’r rhesymau dros ohirio wrth drosglwyddo gofal yn amrywio’n fawr ac ni ellir priodoli’r broblem i unrhyw un rhan o’r system iechyd a gofal cymdeithasol, felly mae angen gwahanol fesurau i ddelio â’r broblem ac nid oes digon o gynnydd wedi’i wneud hyn yn hyd. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr awdurdodau lleol a’r Byrddau Iechyd Lleol yn gweithredu ar ein hargymhellion.”