Y Pwyllgor Archwilio yn canfod bod Llywodraeth Cymru yn methu ag arwain y ffordd wrth gynyddu gweithgarwch corfforol

Cyhoeddwyd 31/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio yn canfod bod Llywodraeth Cymru yn methu ag arwain y ffordd wrth gynyddu gweithgarwch corfforol

Yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Bwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru, nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu arweiniad effeithiol yn ei hymdrechion i gynyddu gweithgarwch corfforol.

Mae’r Pwyllgor Archwilio yn cydnabod bod strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru yn un uchelgeisiol ac yn un sy’n gofyn am gydweithrediad gan nifer o gyrff: Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol, y Cyngor Chwaraeon, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, a sefydliadau cymunedol, gwirfoddol ac elusennol. Fodd bynnag, canfu’r pwyllgor nad oes cynllun gweithredu cyffredinol yn bodoli ac nad oes yr un adran yn cymryd rheolaeth gyffredinol o’r strategaeth.   Yn ogystal, mae strategaethau eraill y Llywodraeth yn ceisio mynd i’r afael â’r un materion ond yn gwneud hynny mewn ffyrdd gwahanol, sy’n achosi dryswch ymysg y rheini sy’n gweithio yn y maes.

Ym mis Mehefin 2007, argymhellodd yr Archwilydd Cyffredinol mai un  person ddylai fod yn gyfrifol am y cynllun. Fodd bynnag, canfu’r pwyllgor nad yw hyn wedi digwydd, a hynny fwy na blwyddyn ar ôl yr argymhelliad a thair blynedd a hanner ar ôl i’r cynllun gychwyn. Mae’r pwyllgor mor bryderus ynghylch y diffyg gweithredu a fu o ganlyniad i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol fel ei fod wedi gofyn i Lywodraeth y Cynulliad  ddarparu adroddiad o’r sefyllfa ddiweddaraf yn nodi cynnydd yn erbyn y chwech o argymhellion y pwyllgor, o fewn 12 mis, yn ogystal â darparu ei hymateb arferol i adroddiad gan bwyllgor y Cynulliad,

Un enghraifft o’r diffyg arweiniad hwn yw’r diffyg eglurder ynghylch prif darged Dringo’n Uwch o wneud 30 munud o ymarfer corff bum gwaith yr wythnos. Mae Aelodau’r pwyllgor yn amau a yw’r neges hon, sy’n amlygu manteision gweithgarwch corfforol orau, yn cael ei chyfleu yn ddigon clir i’r rheini sydd fwyaf ei hangen.  

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y pwyllgor: “Mae gan weithgarwch corfforol lawer o fanteision iechyd, yn enwedig wrth leihau’r perygl sy’n gysylltiedig â nifer o glefydau difrifol.  Mae gan gyfraddau uwch o weithgarwch corfforol hefyd fanteision cymdeithasol ac economaidd. Mae goblygiadau anweithgarwch corfforol yn gynyddol yn dod yn broblem fyd-eang i’r genhedlaeth hon ac i genedlaethau’r dyfodol – mae’r gost ariannol ei hun yn sylweddol, sef rhyw £650 miliwn y flwyddyn i Gymru.

“Rydym felly wedi ein siomi wrth weld nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi uwch swyddog i hyrwyddo’r gwaith o amlygu gweithgarwch corfforol yn holl waith Llywodraeth y Cynulliad a chysylltu â rhanddeiliaid eraill i arolygu a chydlynu’r gwaith yng Nghymru.  Siom hefyd yw gweld nad yw’r gwaith ar y cynllun gweithredu wedi ei gwblhau mor hwyr â hyn ym mywyd y prosiect.

“Rydym hefyd yn pryderu nad yw pwysigrwydd gweithgarwch corfforol yn cael ei gyfleu’n glir i bobl Cymru ac rydym wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch y pryderon hynny. O ystyried diffyg gweithredu’r Llywodraeth hyd yn hyn ar argymhellion a wnaed dros flwyddyn yn ôl, edrychaf ymlaen at ymateb y Llywodraeth ac at dderbyn adroddiad o’r sefyllfa ddiweddaraf ymhen blwyddyn fel y gallwn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud.”