Cyhoeddwyd 07/03/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol i gael eu diweddaru ar blismona cymunedol yng Nghymru
Bydd Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol y Cynulliad yn clywed am lwyddiant plismona cymunedol yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf.
Bydd y Dirprwy Prif Gwnstabl Mick Giannisi, o Heddlu Gwent yn dweud wrth y Pwyllgor fod plismona cymunedol yn beth traddodiadol, ond bod iddo ongl fodern, a’i nod yw rhoi’r heddlu yn ganolog yn y gymuned unwaith eto. Mae’r fenter wedi llwyddo hyd yma ond mae angen ei datblygu ymhellach mewn oes o setliadau ariannol annigonol a mwy a mwy o bwysau ar y gwasanaeth fel y gwelwn heddiw.
Bydd yr aelodau hefyd yn clywed gan y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr Cymru am y gwaith mae’n ei wneud i geisio gostwng ail-droseddu yng Nghymru. Yn yr un cyfarfod, bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi cyflwyniad i’r Pwyllgor am y gwaith mae’n wneud i roi grym i gymunedau lleol i gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch eu hardaloedd lleol o ran glendid.
Mae’r cyfarfod yn digwydd am 9.30am, ddydd Mercher, Mawrth 7 yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd.
Manylion llawn a’r agenda
Dywedodd Janice Gregory AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rwy’n falch iawn y bydd y Dirprwy Prif Gwnstabl Giannasi yn y cyfarfod i roi diweddariad inni ar blismona cymunedol. Mae hwn yn gam pwysig tuag at helpu i ostwng troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau lleol.