Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyhoeddwyd 26/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru

Bydd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher, Tachwedd 28.

Bydd Dr Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a Jocelyn Davies, Y Dirprwy Weinidog dros Dai yn dod i’r cyfarfod i ateb cwestiynau am y gyllideb.

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2, Y Senedd, o 9.30am – 11.00pm ddydd Mercher, 28 Tachwedd.

Mwy o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant