Y Pwyllgor Cynaliadwyedd i ddechrau ar drydedd ran ei ymchwiliad i Ostwng Carbon

Cyhoeddwyd 05/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd i ddechrau ar drydedd ran ei ymchwiliad i Ostwng Carbon

Bydd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn dechrau ar drydedd ran ei ymchwiliad i Ostwng Carbon yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf, ddydd Iau, Chwefror 7fed pan fydd yn derbyn tystiolaeth ar ostwng carbon a gynhyrchir gan ddiwydiant a chyrff cyhoeddus.

Bydd yr Aelodau’n clywed tystiolaeth gan Ganolfan Tyndall, Y Ganolfan ar gyfer Perthnasoedd Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Caerdydd, gan yr Ymddiriedolaeth Carbon ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Mae’r Pwyllgor wedi bod yn cynnal ymchwiliad i Ostwng Carbon ers mis Hydref ac oherwydd maint y prosiect mae wedi rhannu’r ymchwiliad yn dair rhan. Bydd hon, y drydedd ran o ymchwiliad y pwyllgor yn edrych ar ostwng carbon gan ddiwydiannau a chyrff cyhoeddus, ac roedd y rhan gyntaf yn edrych ar ein cartrefi a’r ail ran yn edrych ar drafnidiaeth, a bydd rhannau eraill yn edrych ar gynhyrchu ynni, y defnydd o dir a chynllunio.

Gobeithia’r Pwyllgor gyhoeddi ei ddau adroddiad cyntaf, ar ostwng carbon yn ein cartrefi ac ar ostwng carbon gan drafnidiaeth, ddechrau mis Mawrth.

Bydd y cyfarfod yn digwydd rhwng 9.00am a 11.00am ddydd Iau, Chwefror 7fed yn Ystafell bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd.

Mwy o fanylion am y Pwyllgor a’i ymchwiliad ar gael yn: