Y Pwyllgor Deisebau’n croesawu ymateb y Prif Weinidog i’r adroddiad ar ddyfodol gwasanaethau gwylwyr y glannau

Cyhoeddwyd 20/04/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Deisebau’n croesawu ymateb y Prif Weinidog i’r adroddiad ar ddyfodol gwasanaethau gwylwyr y glannau

20 Ebrill 2012

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi croesawu ymateb Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog, i’r adroddiad ar ad-drefnu gwasanaethau gwylwyr y glannau yng Nghymru.

Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu asesiad risg annibynnol o’r cynigion i gau gorsaf gwylwyr y glannau Abertawe fel rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i ad-drefnu Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.

Gweithredodd y Pwyllgor ar ôl cael deiseb ac arni bron i 300 o enwau a oedd yn codi amheuon ynglyn â’r cynigion a allai olygu mai gorsafoedd mewn mannau eraill yn y DU fyddai’n cydgysylltu gweithrediadau ar gyfer ardal Abertawe yn y dyfodol.

Er nad yw’r pwerau dros Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi’u datganoli, mae’r Pwyllgor Deisebau o’r farn bod modd i Lywodraeth Cymru gomisiynu ei asesiad risg ei hun oherwydd y goblygiadau posibl i bobl sy’n gweithio yn ardaloedd arfordirol Cymru neu sy’n ymweld â hwy.

Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Gwnaethom ddau argymhelliad yn ein hadroddiad ac rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi’u derbyn.

“Mae’r Prif Weinidog wedi cysylltu â Llywodraeth y DU yn cynnig rhannu’r gost o gynnal asesiad risg annibynnol o effaith y cynigion ar Gymru ac mae wedi ymrwymo i herio’r newidiadau arfaethedig i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.

“Dyma’n union beth a ofynnodd y deisebwyr a gododd y mater hwn â ni amdano ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu bod o gymorth iddynt.”