Y Pwyllgor Deisebau'n rhoi cefnogaeth i sefydlu Academi Heddwch Cymru

Cyhoeddwyd 24/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Deisebau'n rhoi cefnogaeth i sefydlu Academi Heddwch Cymru

24 Hydref 2013

Mae Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cefnogi galwad i sefydlu Academi Heddwch i Gymru.

Mae'r Pwyllgor wedi argymhell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymhellach sut y gall helpu i asesu dichonoldeb sefydliad o'r fath a sut y gallai gael ei redeg a'i ariannu.

Cafodd y mater ei drafod gan y Pwyllgor ar ôl cael deiseb ag arni 1,525 o enwau gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Cynefin y Werin, Cymdeithas y Cymod ac CND Cymru.

Roedd y ddeiseb yn galw ar:

"...Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r posibilrwydd ac i edrych pa mor ymarferol fyddai i Gymru gael Sefydliad Heddwch i edrych ar heddwch a hawliau dynol, tebyg i’r sefydliadau a gefnogir gan lywodraethau gwladwriaethau yn Fflandrys, Catalonia a mannau eraill yn Ewrop."

Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: "Mae'r dystiolaeth yr ydym wedi clywed wedi ein darbwyllo y byddai gwerth mewn rhoi ystyriaeth bellach i rôl, swyddogaeth a chwmpas sefydliad o'r fath.

"Rydym yn cydnabod yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ac yn gwerthfawrogi'r ffaith efallai nad oes gan Lywodraeth Cymru'r cyllid i ymgymryd â'r gwaith hwn ond gallai helpu i hwyluso'r gwaith archwiliadol.

"Hoffem ddiolch i'r deisebwyr ac i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i'n helpu yn ein trafodaethau ar y ddeiseb hon."

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y ddeiseb yma.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am system ddeisebau'r Cynulliad Cenedlaethol yma.