Cyhoeddwyd 15/11/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Diwylliant i drafod Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn trafod Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 15 Tachwedd yn y Senedd. Bydd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru a Jennifer Stewart, Rheolwr Cymru yn rhoi cyflwyniadau i’r Pwyllgor.
Bydd Aelodau hefyd yn trafod y gyllideb arfaethedig ar gyfer y portffolio Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon; yn ystyried goblygiadau’r papur gwyn drafft ar Gymru o ran y system diogelu treftadaeth ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion ym mhortffolio’r Gweinidog.
Cynhelir y cyfarfod am 9.00am yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd, Bae Caerdydd.
Manylion llawn ac agenda