Y Pwyllgor Diwylliant i drafod Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Cyhoeddwyd 15/11/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Diwylliant i drafod Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn trafod Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 15 Tachwedd yn y Senedd. Bydd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru a Jennifer Stewart, Rheolwr Cymru yn rhoi cyflwyniadau i’r Pwyllgor. Bydd Aelodau hefyd yn trafod y gyllideb arfaethedig ar gyfer y portffolio Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon; yn ystyried goblygiadau’r papur gwyn drafft ar Gymru o ran y system diogelu treftadaeth ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion ym mhortffolio’r Gweinidog. Cynhelir y cyfarfod am 9.00am yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda