Y Pwyllgor Diwylliant i drafod y Diwydiant Papurau Newydd Saesneg yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/02/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Diwylliant i drafod y Diwydiant Papurau Newydd Saesneg yng Nghymru

16 Chwefror 2006

Bydd cyfarfod nesaf Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael cyflwyniad ar y Diwydiant Papurau Newydd Saesneg yng Nghymru ddydd Iau, 16eg Chwefror yn Adeilad y Cynulliad, Bae Caerdydd.

Bydd y cyfarfod yn cynnwys cyflwyniadau gan gynrychiolwyr o’r byd papurau newydd Saesneg eu hiaith yng Nghymru a Choleg Newyddiaduraeth Caerdydd. Yn annerch yn y cyfarfod bydd; Mr Chris Rees o South West Wales Publications Ltd; Gavin Steacy o Newsquest Cymru a Swydd Gaerloyw; Kevin McNulty o gwmni Papurau Newydd Gogledd Cymru a Dr. James Thomas o Goleg Newyddiaduraeth Caerdydd. Bydd y cyfarfod yn digwydd am 9.00 y bore yn Ystafell Bwyllgora 2, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda: