Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bwriadu cynnal ymchwiliad i dechnoleg feddygol

Cyhoeddwyd 24/08/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bwriadu cynnal ymchwiliad i dechnoleg feddygol

24 Awst 2012

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cynnal ymchwiliad i’r broses o werthuso technolegau meddygol yng Nghymru a mynediad at y technolegau hyn.

Bydd y Pwyllgor yn dechrau drwy ofyn am farn arbenigol ar y materion allweddol y dylid eu hystyried fel rhan o’r ymchwiliad, y’u gelwir hefyd yn gylch gorchwyl.

Yn benodol, byddai’r Pwyllgor yn croesawu sylwadau ar y canlynol:

  • faint o dechnoleg feddygol sy’n cael ei defnyddio yng Nghymru a’r rhwystrau posibl sy’n atal cleifion rhag cael mynediad haws at driniaethau newydd ac effeithiol (ac eithrio cyffuriau);

  • y prosesau gwerthuso cyfredol ar gyfer technolegau meddygol newydd, gan gynnwys dyfeisiau meddygol, technegau diagnostig a gweithdrefnau llawfeddygol; a’r

  • broses gwneud penderfyniadau yn y GIG o ran ariannu technolegau/triniaethau newydd.

Disgwylir i’r ymchwiliad ddechrau casglu tystiolaeth fanwl yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond mae’r amserlen yn dibynnu ar faint o ddeddfwriaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ei hystyried.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan yn bodoli i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar reoli meddyginiaethau yn strategol a phresgripsiynu.

"Fodd bynnag, nid oes corff o’r fath yng Nghymru sydd â’r cyfrifoldeb o gynnig cyfarwyddyd tebyg ar dechnoleg feddygol, a all gynnwys dyfeisiau, technegau diagnostig a gweithdrefnau llawfeddygol.

"Mae gwaith ymchwil hefyd yn bodoli sy’n awgrymu bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU o ran defnyddio rhai dyfeisiau. Hoffem wybod a yw hyn yn wir ac, os felly, pam.

"Ar hyn o bryd, dylwn bwysleisio mai dim ond cyfle i fynegi barn ar gylch gwaith yr ymchwiliad yw hwn, ac nid cyfle i gyflwyno tystiolaeth ffurfiol.

"Bydd galwad pellach am gyflwyniadau manwl yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar ôl cadarnhau a chyhoeddi’r cylch gorchwyl."

Dylai sylwadau gyrraedd erbyn dydd Gwener 5 Hydref. Gellir eu cyflwyno naill ai drwy anfon e-bost at PwyllgorIGC@cymru.gov.uk neu drwy ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.