Y Pwyllgor Iechyd i drafod gwasanaethau ambiwlans Cymru

Cyhoeddwyd 17/01/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Iechyd i drafod gwasanaethau ambiwlans Cymru

Mae Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad am gynnal cyfarfod arbennig i drafod adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Yn ei adroddiad, dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, fod perfformiad gwael sydd wedi bodoli ers tro o safbwynt y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn deillio o wendidau ym mhob agwedd ar reoli busnes. Mae problemau difrifol wedi parhau am lawer o flynyddoedd, ond mae gan y gwasanaeth ambiwlans gryfderau sy’n rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol. Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn trin a thrafod yr adroddiad fore Mercher 17 Ionawr yn Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd, Bae Caerdydd, rhwng 9.30am a 11.30am. Bydd y Pwyllgor yn rhoi gwrandawiad i Alan Murray, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Peter Higson, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Datgelodd ymchwiliad yr Archwilydd Cyffredinol i’r gwasanaeth ambiwlans wendidau sylfaenol. Bydd y Pwyllgor yn craffu ar gynigion y gwasanaeth ambiwlans ar gyfer mynd i'r afael â’r gwendidau hynny a gwella gwasanaethau. Yr ydym yn disgwyl i Lywodraeth y Cynulliad ddefnyddio’r argymhellion a wnawn er mwyn troi’r gwasanaeth ambiwlans yn un a fydd yn darparu gwasanaeth da i bobl Cymru yn y dyfodol.” Manylion llawn ac agenda