Cyhoeddwyd 18/01/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol i archwilio’r Mesur Llywodraeth Leol
Bydd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried y darpariaethau ar gyfer Cymru yn y Mesur Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, Ionawr 18
fed 2007.
Bydd yr Aelodau’n derbyn adroddiad gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r diweddaraf ar Ddatblygu Egwyddorion Craidd Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, fel rhan o Greu’r Cysylltiadau.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar reoliadau i gryfhau’r trefniadau ar gyfer lleoli, iechyd, addysg a lles plant sy’n derbyn gofal, a bydd yn ystyried Rhaglen Waith a Deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2007.
Bydd y cyfarfod yn digwydd yn ystafell bwyllgora 2, yn y Senedd, Bae Caerdydd o 9.30am tan 12.30pm ddydd Iau Ionawr 18.
Manylion llawn ac agenda
I archebu sedd ffoniwch 0845 010 5500 neu e-bostiwch archebu@cymru.gsi.gov.uk
Rhowch wybod i’r swyddfa archebu am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych. Mae’r llinell archebu yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9:00am hyd 4:30pm.