Y Pwyllgor Llywodraeth Leol i archwilio’r Mesur Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd 18/01/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol i archwilio’r Mesur Llywodraeth Leol

Bydd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried y darpariaethau ar gyfer Cymru yn y Mesur Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, Ionawr 18fed 2007. Bydd yr Aelodau’n derbyn adroddiad gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r diweddaraf ar Ddatblygu Egwyddorion Craidd Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, fel rhan o Greu’r Cysylltiadau. Bydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar reoliadau i gryfhau’r trefniadau ar gyfer lleoli, iechyd, addysg a lles plant sy’n derbyn gofal, a bydd yn ystyried Rhaglen Waith a Deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2007. Bydd y cyfarfod yn digwydd yn ystafell bwyllgora 2, yn y  Senedd, Bae Caerdydd o 9.30am tan 12.30pm ddydd Iau Ionawr  18.   Manylion llawn ac agenda I archebu sedd ffoniwch 0845 010 5500 neu e-bostiwch archebu@cymru.gsi.gov.uk Rhowch wybod i’r swyddfa archebu am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych. Mae’r llinell archebu yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9:00am hyd 4:30pm.