Cyhoeddwyd 12/11/2007
                           |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
                
                
                    
Y Pwyllgor Menter a Dysgu i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru 
Bydd y Pwyllgor Menter a Dysgu’n craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 14 Tachwedd.   
Bydd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a Ieuan Wyn Jones y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn bresennol yn y cyfarfod i ateb cwestiynau ar y gyllideb.
Bydd yr Aelodau hefyd yn craffu ar ymateb ysgrifenedig Ieuan Wyn Jones i adroddiad y Pwyllgor ar ei ystyriaeth o’r ddeiseb i ailagor gorsaf rheilffordd Carno ynghyd ag adroddiad Network Rail 
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd rhwng 9.00am a 12.00pm ddydd Mercher 14 Tachwedd.  
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Dysgu.