Y Pwyllgor Menter a Dysgu i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyhoeddwyd 12/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Menter a Dysgu i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru

Bydd y Pwyllgor Menter a Dysgu’n craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 14 Tachwedd.    Bydd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a Ieuan Wyn Jones y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn bresennol yn y cyfarfod i ateb cwestiynau ar y gyllideb. Bydd yr Aelodau hefyd yn craffu ar ymateb ysgrifenedig Ieuan Wyn Jones i adroddiad y Pwyllgor ar ei ystyriaeth o’r ddeiseb i ailagor gorsaf rheilffordd Carno ynghyd ag adroddiad Network Rail Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd rhwng 9.00am a 12.00pm ddydd Mercher 14 Tachwedd.   Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Dysgu.