Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc am ddilyn y ffrwd ariannol i’w diwedd i sicrhau chwarae teg i blant a phobl ifanc Cymru

Cyhoeddwyd 23/01/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc am ddilyn y ffrwd ariannol i’w diwedd i sicrhau chwarae teg i blant a phobl ifanc Cymru

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad byr i gyllidebu ar gyfer plant yng Nghymru.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Helen Mary Jones wrth lansio’r alwad am dystiolaeth: “Mae polisïau’n bwysig a thros y degawd diwethaf mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu polisïau da er mwyn sicrhau pob chwarae teg i’r rhai ieuengaf yn ein cymdeithas

Mae’r cyllidebau’n bwysicach byth, oherwydd heb gyfeirio’r arian ar gyfer y polisïau hyn ni chânt eu rhoi ar waith”.

Dyna bwrpas yr ymchwiliad hwn i gyllidebu ar gyfer plant, sef archwilio’r adnoddau a ddyrennir gan lywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol ar gyfer polisïau, rhaglenni a gwasanaethau sydd o fudd i blant, ac edrych a yw’r rhain yn adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc yn ddigonol.

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gyson wedi argymell bod dadansoddiadau cyllidebol yn digwydd drwy Lywodraeth y DU a gweinyddiaethau dirprwyedig i ddangos y gwariant ar blant, i ddynodi blaenoriaethau ac i ddyrannu adnoddau er mwyn gwneud y gorau posibl o’r hyn sydd ar gael.

Er canmoliaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae wedi dechrau ar waith yn hyn o beth. Serch hynny, mae’r modd y caiff cyllidebau eu llunio yng Nghymru yn aml yn ei gwneud yn anodd dynodi’n union beth sy’n cael ei wario ar blant a phobl ifanc, ar ystod eang o ffactorau sy’n effeithio arnynt – sef eu haddysg, eu hiechyd a’u treftadaeth.                

Mae mwy o dryloywder, a gwell dealltwriaeth o’r modd y neilltuir ac y dyrennir gwariant cyhoeddus yn hanfodol ar gyfer monitro sut mae llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yn hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru.

I ganfod y gwirionedd ynghylch gwir flaenoriaethau’r llywodraeth, yn lleol ac yn genedlaethol – rhaid i ni fedru dilyn y ffrwd arian i’w diwedd.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor, a’r alwad am dystiolaeth i’w gweld yn y wefan: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-cyp-home.htm