Cyhoeddwyd 16/01/2008
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ddechrau ymchwiliad i wasanaethau eiriolaeth plant yng Nghymru
Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ddydd Iau 17 Ionawr yn y Senedd.
Yn ystod y cyfarfod, bydd yr Aelodau’n clywed tystiolaeth gan David Melding AC, Cadeirydd y Grwp Hollbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal, a chan Deborah Jones, Cyfarwyddwr Voices from Care, mewn perthynas â’i ymchwiliad cyntaf i wasanaethau eiriolaeth plant yng Nghymru.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2, Y Senedd rhwng 10.00am a 11.30am.
Manylion llawn ac agenda