Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ddechrau ymchwiliad i wasanaethau eiriolaeth plant yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ddechrau ymchwiliad i wasanaethau eiriolaeth plant yng Nghymru

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ddydd Iau 17 Ionawr yn y Senedd. Yn ystod y cyfarfod, bydd yr Aelodau’n clywed tystiolaeth gan David Melding AC, Cadeirydd y Grwp Hollbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal, a chan Deborah Jones, Cyfarwyddwr Voices from Care, mewn perthynas â’i ymchwiliad cyntaf i wasanaethau eiriolaeth plant yng Nghymru. Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2, Y Senedd rhwng 10.00am a 11.30am. Manylion llawn ac agenda