Ystafell y Pwyllgorau

Ystafell y Pwyllgorau

Y Pwyllgorau a’r Comisiynwyr: Y Camau Nesaf ar Gyfer y Chweched Senedd

Cyhoeddwyd 24/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/06/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw, cymeradwyodd yr Aelodau o’r Senedd enwau a chylch gwaith pwyllgorau’r chweched Senedd. 

Mae gan y pwyllgorau nifer o swyddogaethau, gan gynnwys craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, dwyn y Gweinidogion i gyfrif, a chraffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig.  

Dyma’r pwyllgorau newydd: 

  • Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg  
  • Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig  
  • Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith  
  • Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol  
  • Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol  
  • Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai  
  • Y Pwyllgor Cyllid  
  • Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus  
  • Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad  
  • Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad  
  • Y Pwyllgor Deisebau  

Dylai fod chwe Aelod yn y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth, a phedwar yn y pwyllgorau arbenigol, ar wahân i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a fydd yn cynnwys pump. 

Bydd cadeiryddion y pwyllgorau’n cael eu henwebu a’u hethol ddydd Mawrth 29 Mehefin. 

Comisiynwyr y Senedd  

Mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i'r Senedd benodi Comisiynwyr sy'n gyfrifol am ddarparu'r staff a'r adnoddau y mae eu hangen ar y Senedd i gyflawni ei gwaith yn effeithiol ar gyfer pobl Cymru. 

Y Llywydd sy’n cadeirio’r Comisiwn, ac mae’n cynnwys pedwar Aelod sydd wedi’u hethol gan y Senedd.  

Yr Aelodau sydd newydd eu hethol yn Ken Skates (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru).