Y wobr aur – y Cynulliad Cenedlaethol yn ennill y wobr uchaf am yr eildro am ei ymrwymiad i staff

Cyhoeddwyd 26/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y wobr aur – y Cynulliad Cenedlaethol yn ennill y wobr uchaf am yr eildro am ei ymrwymiad i staff

26 Mehefin 2013

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill gwobr aur Buddsoddwyr mewn Pobl am yr eildro.

Buddsoddwyr mewn Pobl yw prif safon gwella busnes rheoli pobl y DU.  Mae'n cael ei defnyddio gan ddegau o filoedd o bobl mewn sefydliadau mewn mwy na 50 o wledydd.

Mae'n galluogi sefydliadau i feincnodi ei hunain yn erbyn rhai o'r cyflogwyr gorau yn y byd a dim ond llond llaw sy'n ennill y wobr aur.

“Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru rôl ganolog ym mywydau pobl Cymru.

“Mae gwaith y sefydliad hwn yn effeithio ar ein hysgolion ac ysbytai, ein hamgylchedd a'r celfyddydau, a thrwy hynny ar ein bywydau bob dydd, pa un ai drwy wneud gwaith craffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru a chyfreithiau newydd sy'n cael eu cynnig neu wrth i Aelodau'r Cynulliad ymateb i obeithion a dyheadau eu hetholwyr.

“Ni fyddai Aelodau'r Cynulliad yn gallu gwneud y gwaith pwysig hwn oni bai fod gweithlu sgilgar ac ymroddedig yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau o'r radd flaenaf.  Rwy'n gweld brwdfrydedd bob dydd o gwmpas ystad y Cynulliad oherwydd ein bod ni'n buddsoddi'n barhaus mewn datblygu ein staff ac yn meithrin amgylchedd lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu blaguro.

“Mae gwobr aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn dangos bod y Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddo o ran buddsoddi yn ei staff.  Bydd yr ymrwymiad hwnnw yn parhau wrth i ni ymdrechu i wella ar yr hyn sydd eisoes yn wasanaethau seneddol rhagorol.”

Nododd yr adroddiad Buddsoddwyr mewn Pobl fod cryfderau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys:

  • dull o weithio cynhwysol iawn o ran datblygu cynlluniau;

  • rheolwyr uwch amlwg ac agored iawn;

  • trefn gadarn o arfarnu a thrafodaethau a chyfarfodydd adborth anffurfiol;

  • defnydd o amrywiaeth eang o ddulliau hyfforddi a datblygu

  • diwylliant ymghynghori cryf;

  • gwaith cyfathrebu da sy'n gwella;

  • ymdeimlad cryf o gydraddoldeb.

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: “Mae gan bobl Cymru ddisgwyliadau mawr o'r Cynulliad, ac mae hynny'n iawn.

“O ganlyniad, rydym ni'n disgwyl llawer gan y rhai sy'n gweithio yma.  Mae angen iddynt ddarparu cymorth seneddol o'r radd flaenaf i'r Cynulliad.

“Dyna pam mae ennill safon uchaf posibl Buddsoddwyr mewn Pobl – y wobr aur – mor bwysig i ni.  Rwy'n hynod falch ein bod wedi ennill y wobr aur am yr eildro, ond rwy'n fwy balch bod canlyniadau'r buddsoddiad hwnnw i'w weld o'm hamgylch yn y gwaith y mae ein staff yn ei wneud bob dydd.

“Mae'n wir anrhydedd cael gweithio gyda phobl sydd eisiau dysgu, datblygu, a gwneud y gwaith gorau posibl i'r Cynulliad ac i Gymru ac sy'n esiampl wych o'r hyn y mae gwobr aur yn ei olygu.”

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei enwi yn un o'r 10 o'r gweithleoedd mwyaf cyfeillgar yn y DU ymhlith can cwmni'r FTSE.  Yn ogystal, unwaith eto, fe'i dyfarnwyd yn un o'r cyflogwyr gorau i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn y DU ac y mae wedi ennill statws Cyflog Byw.

Ymhellach, mae'r Cynulliad wedi gweld cynnydd yn y galw gan gynrychiolwyr o dros y byd i edrych ar bum agwedd benodol ar ei waith.  Y pum maes yw:

  • sut rydym ni'n ymgysylltu â dinasyddion Cymru;

  • ein strategaeth e-ddemocratiaeth;

  • sut rydym ni'n gweithredu'n gwbl ddwyieithog;

  • sut rydym ni'n craffu ar y Llywodraeth drwy ein systemau pwyllgorau effeithiol;

  • a'n rhaglen unigryw o ran datblygiad proffesiynol parhaus i Aelodau'r Cynulliad.

Yn y llun, o’r chwith i’r dde, gyda’r dystysgrif Buddsoddwyr Mewn Pobl mae Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, a Rosemary Butler AC, y Llywydd