Mae Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw (16 Tachwedd) y bydd aelwydydd sy’n cael credyd cynhwysol a budd-daliadau oedran gweithio eraill yn cael taliad un-tro gwerth £100 i helpu gyda biliau tanwydd.
Mae Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor, wedi croesawu’r cymorth ychwanegol, sy’n fwy na dyblu’r £25 miliwn a gafodd Llywodraeth Cymru mewn iawndal am y toriad o £500 miliwn gan Lywodraeth y DU mewn Credyd Cynhwysol a weithredwyd y mis diwethaf, ond bydd taliad un-tro’n ddim yn ddigon ar ei ben ei hun i fynd i’r afael â chynnydd costau byw.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd;
“Rydym yn croesawu mentergarwch Llywodraeth Cymru, ac yn cydnabod y bydd £100 ychwanegol i helpu gyda biliau ynni y gaeaf hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i aelwydydd sydd eisoes yn cael trafferth talu costau byw sylfaenol. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ein hadroddiad, sef Dyled a’r Pandemig, mae’n annhebygol y bydd taliadau un-tro’n ddigon i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu pobl.
“Wrth roi tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad, roedd tystion yn defnyddio geiriau fel “tswnami” a “storm berffaith” wrth sôn am y costau cynyddol yn y misoedd i ddod a fydd yn rhoi pobl mewn mwy o ddyled y gaeaf hwn.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar argymhellion y Pwyllgor i barhau i gefnogi aelwydydd sy’n cael eu gorfodi i ddyled er mwyn talu’r costau byw mwyaf sylfaenol ac i gyflymu’r camau a ddyluniwyd i fynd i’r afael ag achosion tlodi tanwydd fel ôl-osod cartrefi i gyrraedd safonau arbed ynni uwch. Bydd y Pwyllgor yn parhau i graffu ar ymateb y llywodraeth i’r argyfwng hwn a bydd yn trafod materion ynghylch tlodi tanwydd yn fanylach dros y misoedd i ddod.
“Rydym yn edrych ymlaen at gael ymateb y llywodraeth i’n hargymhellion, a chael y cyfle i drafod y materion â’r Senedd lawn maes o law.”
Cafodd adroddiad y Pwyllgor, sef Dyled a’r Pandemig, ei gyhoeddi ddydd Llun 15 Tachwedd a bydd Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried yr argymhellion.
Mae’r adroddiad Dyled a’r Pandemig ar gael ar y wefan a gallwch ddarllen mwy yn y datganiad i’r wasg am yr adroddiad sydd ar gael yma.