Ymateb llugoer gan Bwyllgor Cynulliad i welliannau mewn gwasanaethau arlwyo ysbytai

Cyhoeddwyd 07/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymateb llugoer gan Bwyllgor Cynulliad i welliannau mewn  gwasanaethau arlwyo ysbytai

7 Chwefror 2012

Mae gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai ledled Cymru yn anghyson ac nid yw’r sefyllfa’n gwella’n ddigon cyflym, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Mewn rhai achosion, clywodd y Pwyllgor am berthnasau a gofalwyr nad oedd yn cael helpu cleifion sy’n agored i niwed neu’n eiddil amser bwyd o ganlyniad i “bolisi amser bwyd wedi’i ddiogelu”, a luniwyd yn wreiddiol i sicrhau bod cleifion yn cael digon o amser i fwyta heb ymyrraeth.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod maeth yn elfen hanfodol o ofal i gleifion, a phan bod y polisi’n cael ei gyflwyno’n iawn wedi arwain at welliannau yn y modd roedd cleifion yn gwella.

Ond dywedwyd wrth aelodau bod gweithredu’r polisi yn anghyson mewn ysbytai ledled Cymru a’r broses o’i gyfathrebu i staff rheng flaen yn cymryd yn rhy hir.

“Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at dystiolaeth frawychus o bolisi a luniwyd i wella’r gofal i gleifion yn cael yr effaith i’r gwrthwyneb oherwydd cyfathrebu a dehongli gwael, dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

“Lle bo’r polisi yn cael ei weithredu’n gywir, roedd y Pwyllgor yn falch o weld canlyniadau cadarnhaol ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau pellach i sicrhau bod safonau uchel o wasanaeth yn gyson ymhob un o ysbytai Cymru.

“Rydym hefyd yn argymell y dylai pob claf gael gwybod beth yw safon yr arlwyo y gellir ei ddisgwyl wrth gyrraedd yr ysbyty ac y dylai sgoriau hylendid bwyd gael eu harddangos yn amlwg ymhob ysbyty.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud saith o argymhellion yn ei adroddiad:

-      Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau atodol i bob corff yn y GIG yng Nghymru gan ddatgan yn glir na ddylid defnyddio’r polisi amser bwyd i atal perthnasau a gofalwyr rhag helpu cleifion i fwyta, a lle bod perthnasau a gofalwyr yn dymuno rhoi cymorth gyda phrydau bwyd, eu bod yn cael eu hannog yn frwd i wneud hynny gan staff ar y ward;

-      Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn dosbarthu nodyn   cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru ‘Bwyta’n Dda yn yr Ysbyty’  wrth i bob claf yng Nghymru gael eu derbyn i’r ysbyty;

-      Bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau bod cynnydd cyrff y GIG wrth gyflwyno’u cynlluniau gweithredu eu hunain yn cael ei arolygu’n drwyadl ac ar gael i’r cyhoedd.

-      Bod Llywodraeth Cymru yn arolygu cynnydd cyrff y GIG wrth gyflwyno’u canllawiau, gan gynnwys dod o hyd i fwyd lleol sy’n cyfrannu at ddeiet cytbwys-iach i gleifion, lle bo’n bosibl;

-      Bod Llywodraeth Cymru’n darparu manylion ynglŷn â sut a phryd y bydd yn cyrraedd targedau gostwng gwastraff;

-      Bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu i sicrhau y caiff sgoriau hylendid bwyd eu harddangos yn gyhoeddus yn holl ysbytai Cymru;

-      Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i’r Swyddog Cyfrifo ddarparu cynllun iddynt o sut a phryd y bydd Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol wedi cwblhau’r gwelliannau a argymhellwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol.